Neidio i'r prif gynnwys
Llun o fodrwy aur, pen rheng a ceiniog aur.
7 Mehefin

Archeoleg yn Oriel Môn

Diwrnod Agored Archeoleg

Diwrnod wedi’i ymroi i bopeth yn ymwneud ag archeoleg, yn ystod y dydd mae gennym glinig darganfyddiadau PAS,teithiau,sgyrsiau,hwyl i’r teulu a stondinau.

Lleoliad

Oriel Mon

Cymhorthfa Darganfyddiadau: Apwyntiadau 15 munud y gellir eu harchebu ymlaen llawn er mwyn i chi allu cynnig eich eitemau archeolegol i’w hadnabod a’u cofnodi tan 12:30pm NEU gallwch alw heibio ar sail cyntaf i’r felin o 13:30pm. Archebwch eich lle gan ddefnyddio Eventbrite.

PAS Cymru Finds Surgery - Anglesey Tickets, Sat, Jun 7, 2025 at 10:30 AM | Eventbrite

Clwb hanes plant: 10:30-11:30 a 1:30-2:30 – dim angen archebu lle.

Teithiau tu ôl i’r llenni gyda Ian Jones, Rheolwr Casgliadau 11:30-12:30 a 2:30-3:30, archebwch eich lle drwy ffonio 01248 724444

Cinio a Dysgu gydag Arwyn Owen Myfyriwr PhD Manchester Metropolitan University: 12:30

Celf Creigiau Cynhanes ar Ynys Môn gyda’r Darlithydd Cyswllt George Nash: 3:30

Teithiau Tywys gan Frances Lynch MBE: 
10:30 a 1:30