Neidio i'r prif gynnwys
Darganfyddiadau archaeolegol.
24 Hydref

Archeoleg yn Oriel Môn

Diwrnod Agored Archeoleg

Diwrnod llawn o archeoleg, yn cael ei gynnal drwy’r dydd mae gennym glinig darganfyddiadau PAS, sgyrsiau, hwyl i’r teulu a stondinau .

Lleoliad

Oriel Môn

Diwrnod Agored Archeoleg

Diwrnod o archeoleg, dewch i siarad ag arbenigwyr, cyfle i weld darganfyddiadau newydd a gallwch hefyd ddod â phethau yr ydych chi wedi eu darganfod – os hoffech drefnu amser yn y gymhorthfa darganfyddiadau PAS – dilynwch y ddolen:
PAS Cymru Finds Surgery - Anglesey Tickets, Saturday, October 24 • 10:30 AM - 3:30 PM | Eventbrite

Sgwrs:
2pm: Dr Carol White - Ailadeiladu Môn Mesolithig
2:45pm Kelly Parry, Oriel Môn – Ymchwil newydd i Ingotau Cacen Copr Rhufeinig Ynys Môn

Ymunwch â Megan Kimmelshue er mwyn troelli gwlân amrwd ar werthyd law a dysgu pa mor bwysig fu defaid i bobl ers canrifoedd.


Bydd cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgaredd creu tlws hynafol efo Heneb, Ymddiriedolaeth Archeoleg Cymru.