Neidio i'r prif gynnwys
Bwyell Efydd
7 Medi

Bwrw Bwyell Efydd

Gweithgaredd Oedolion

Dysgwch sut cafodd rai o’r cyfarpar metel cynharaf eu creu ym Mhrydain yn y cyfnod cyn hanesyddol yn ystod y gweithdy bwrw bwyeill efydd!

Lleoliad

Oriel Mon

Yn ystod y gweithdy hwn, gall y rheiny sy’n bresennol ddewis o ddetholiad o fwyelli i’w bwrw, yn cynnwys:

Mae llafn eang yr fwyell fflans yn arf eiconig o'r cyfnod cyn hanesyddol; mae i'w weld ar ffurf arteffactau ac mewn celf graig yng Ngôr y Cewri (Stonehenge). Yn aml, roedd yr arfau hyn wedi'u haddurno'n gywrain, sy'n awgrymu cysylltiad agos â'r perchennog.

Dewis arall fyddai bwrw bwyell 'palstave' o ganol yr Oes Efydd. Mae dadansoddiad metelegol yn dangos bod copr o Gymru i'w gael mewn dros 90% o'r bwyeill palstave cynnar a ddarganfuwyd ledled gogledd-orllewin Ewrop.

Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn y gweithdy yn cael eu harwain drwy'r broses o wneud mowld, gweithredu'r ffwrnais a bwrw eu bwyell eu hunain. Ar ôl iddi gael ei bwrw, bydd cyfle iddynt lanhau ac addurno pen y fwyell. Rhoddir cyfarwyddiadau ar gyfer gosod y pen ar y coesyn ar ddiwedd y gweithdy.

Oedran: 18+
Cost y person £100
I archebu lle defnyddiwch y ddolen isod.

Archebu ar-lein

Bydd archebu ar lein yn cau ar 18 Medi 2026 am 9am

6 lle ar gael

Archebwch ar-lein - dolen allanol yn agor mewn tab newydd

Prisiau

EitemPris
Bronze Axe Casting£100.00