
Gweithdy Gemwaith Oes Efydd
Gweithgaredd Oedolion
Cyfle i greu gemwaith Oes Efydd gan ddefnyddio gwahanol dechnegau fyddai ar gael i wneuthurwyr dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl!
18 Medi 10am tan 4pm
Darganfyddwch sut yr oedd pobl yr Oes Efydd yn defnyddio muchudd (jet) a deunyddiau tebyg i fuchudd i greu gwahanol fathau o addurniadau personol, yn cynnwys breichledau, botymau, modrwyau gwregys, gleiniau a thlysau crog! Pa arteffact fyddwch chi’n ddewis ei atgynhyrchu?
I ddechrau’r diwrnod byddwn yn cael sgwrs gyflwyniadol am addurniadau personol yn yr Oes Efydd, gan ganolbwyntio ar fuchudd a deunyddiau tebyg i fuchudd. Byddwn yn edrych yn agosach ar ba arteffactau a ddarganfuwyd ym Mhrydain, y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w creu a sut y gall archaeoleg arbrofol ein helpu i ddeall yn well sut y cafodd y gwrthrychau hyn eu creu.
Yn ystod gweddill y bore byddwn yn gweithio gyda darn o fuchudd i siapio a drilio glain cyn mynd ymlaen i greu botwm, modrwy gwregys neu dlws crog o garreg glai (siâl).
Er ei enwogrwydd yn ystod y cyfnod Fictoraidd, bu pobl yn casglu a siapio muchudd a deunyddiau tebyg i fuchudd ers miloedd o flynyddoedd. Gan ddefnyddio offer llawer symlach nag a ddefnyddiwyd gan grefftwyr Oes Fictoria, roeddent yn creu darnau trawiadol sydd yn parhau i syfrdanu pobl pan fyddant yn cael eu harddangos mewn amgueddfeydd heddiw. Beth sydd mor arbennig am y deunydd du dirgel hwn? Pam ydym ni’n cyfeirio at ddeunyddiau tebyg i fuchudd? Cewch wybod yn y gweithdy hwn!
Mae Emma Jones yn arbenigwr ar atgynhyrchu gemwaith cynhanesyddol o Oes y Cerrig a’r Oes Efydd. Yn ddiweddar mae hi wedi cwblhau atgynhyrchiad o Fwclis Muchudd Poltalloch ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn yr offer a’r technegau y byddai gwneuthurwyr cynhanesyddol wedi’u defnyddio i greu’r arteffactau a ddarganfuwyd ar hyd a lled y DU.
Oedran: 16+
Cost y person £60
I archebu lle defnyddiwch y ddolen isod.
Archebu ar-lein
Bydd archebu ar lein yn cau ar 18 Medi 2026 am 9am
10 lle ar gael
Prisiau
| Eitem | Pris |
|---|---|
| Addurnau Oes Efydd | £60.00 |