
28 Awst
Creu Arfbais
Gweithgaredd i blant
Ymunwch â ni am weithgaredd lle byddwch yn creu eich arfbais sydd wedi'i hysbrydoli gan ein harddangosfa Mapio Ynys Môn a phortread Ambrose Lewis.
28 Awst 1pm tan 3pm
Ymunwch â ni am weithgaredd lle byddwch yn creu eich arfbais sydd wedi'i hysbrydoli gan ein harddangosfa Mapio Ynys Môn a phortread Ambrose Lewis sy'n dyddio o 1726 ac yn dangos arfbais Hwfa ap Cynddelw (m. tua 1139), Arglwydd Llifon a sylfaenydd llwyth uchelwrol Gogledd Cymru. Mabwysiadwyd arfbais Hwfa ap Cynddelw fel baner swyddogol Ynys Môn yn 2014.
£5yp
Oedran: 5+
Plant i fod yng nghwmni oedolyn.
I archebu lle: 01248 724444
Am fwy o wybodaeth:
addysgorielmon@ynysmon.llyw.cymru