Neidio i'r prif gynnwys
Ffotograff o Kyffin Williams mewn du a gwyn.
ffotograff o Jenny Williamson yn paentio.
5 Mehefin

Darlith Flynyddol Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams 2026

gyda Jenny Williamson BA

Gwybodaeth am Warchod Paentiadau gyda Jenny Williamson BA (Anrh/ Hons) ACR FIIC

Lleoliad

Oriel Mon

Artist

Syr Kyffin Williams

Trosolwg ar Gadwraeth gyda Jenny Williamson BA(Anrh) ACR FIIC

Mae Cadwraeth yn gyfle i ddeall mwy am waith paentio a chael blas o’r broses o greu paentiadau.

Mae rhan gyntaf y ddarlith hon yn disgrifio sut y sefydlwyd y ffeithiau craidd am baentiad olew, a gafodd ei restru’n amheus fel “Y Frenhines Anne fel Tywysoges” gan Syr Peter Lely. Dechreuodd yr ymchwiliad drwy lanhau ac adfer y paentiad oedd hefyd yn gyfle i gymryd samplau paent i’w dadansoddi ac i wneud gwaith ymchwil celf hanesyddol i helpu i sefydlu hunaniaeth yr artist a’r eisteddwr. Drwy gael grant ar gyfer y prosiect cadwraeth hwn ac yn sgil y bartneriaeth rhwng gwyddoniaeth a chelf, llwyddwyd i adrodd stori’r gwaith mewn ffilm, arddangosfa a deunydd allgymorth.

Bydd yr ail ran yn canolbwyntio ar yr wyth paentiad gan Syr Kyffin Williams yn Oriel Gelf Glynn Vivian a gafodd eu hadfer ar gyfer arddangosfa i nodi can mlynedd ers ei eni. Mae'r paentiadau'n cwmpasu ei yrfa gyfan ac fe'u harchwiliwyd i gyd yn ystod y broses adfer. Mae astudio'r deunyddiau a ddefnyddiwyd, ei dechnegau, a'r defnydd o'r paent yn rhoi cipolwg ar ddatblygiad ei dechneg drwy gydol ei oes.

Archebu ar-lein

Bydd archebu ar lein yn cau ar 5 Mehefin 2026 am 5pm

52 lle ar gael

Archebwch ar-lein - dolen allanol yn agor mewn tab newydd

Prisiau

EitemPris
Darlith Flynyddol Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams £5.00

Bywgraffiad - Jenny Williamson BA(Anrh) ACR FIIC

Mae Jenny Williamson yn warchodwr paentiadau. Mae’n gweithio fel ymgynghorydd annibynnol a swyddog cadwraeth rhan amser yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe. Gweithiodd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am dros ugain mlynedd, bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth am ddeng mlynedd ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio ar baentiadau gan artistiaid Cymraeg.

Astudiodd y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caergrawnt a hyfforddi fel gwarchodwr paentiadau yn Sefydliad Courtauld, Llundain. Mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Cadwraeth Rhyngwladol ac mae’n aelod achrededig o Sefydliad Cadwraeth y DU , lle roedd yn Is-gadeirydd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr am bum mlynedd.