
Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2027
Nod Gwobr Lluniadu Kyffin Williams yw hyrwyddo a gwobrwyo sgiliau o safon uchel mewn arferion lluniadu.
13 Mawrth tan 30 Tachwedd tan
Fe sefydlodd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams y Wobr Lluniadu fel teyrnged i’r holl gefnogaeth a roddodd i arlunwyr a’r pwyslais a roddodd ar sgiliau lluniadu. Roedd Syr Kyffin Williams yn hyrwyddwr brwdfrdig o’r celfyddydau yng Nghymru, a bu’n gefnogwr brwd a gweithgar o waith Oriel Môn ers iddi agor yn 1991.
Yn ystod haf 2008 cafodd Oriel Môn y fraint o agor y drysau i Oriel Kyffin Williams. Ers y cychwyn cyntaf roedd Syr Kyffin Williams yn rhan o’r gwaith o ddewis lleoliad a chynllunio’r Oriel. Yn ei haelioni rhoddodd Syr Kyffin Williams dros 400 o weithiau celf gwreiddiol i Oriel Môn, o frasluniau i luniadau i waith olew sylweddol.
Ffurflenni Cais
I’w derbyn erbyn 30 Tachwedd, 2026 drwy ebost: nicolagibson@ynysmon.llyw.cymru, neu post/galwch heibio: Oriel Môn, Rhosmeirch, Llangefni, Anglesey, LL777TQ.
Rhaid cwblhau’r ffurflenni gan amgáu’r ffi briodol am y nifer o weithiau y byddwch yn dymuno iddynt gael eu hystyried.
Gall pob ymgeisydd gyflwyno hyd at dri llun. Byddwn angen ffi handlo, na fydd yn cael ei had-dalu, ar gyfer pob llun i’w gynnwys yn y gystadleuaeth, fel a ganlyn:
- Un llun £15
- Dau lun £20
- Tri llun £25
Noder: Ni fydd yn rhaid i fyfyrwyr dalu ffi handlo i gystadlu. Dylech ddarparu prawf o fod yn fyfyriwr gyda’r cais, e.e. copi o Gerdyn Adnabod Myfyriwr. Ar gyfer pob gwaith fydd yn cael ei gynnig, gofynnir i’r arlunydd gyflwyno delwedd o ansawdd dda ( gall hwn fod yn jpeg, pdf, wetransfer neu ffotograff). Ni ddylai maint y llun fod yn fwy na 1.5m x 1m, yn cynnwys y ffrâm.
Dylai bob ymgeisydd fod yn 16 oed neu drosodd.
Gwobr Cyntaf: £3,000
Gwobr Myfyriwr: £1,000
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei barnu gan banel o feirniaid a fydd yn cynnwys arlunwyr, curaduron ac aelodau’r Ymddiriedolaeth. Y ganolfan weinyddol ar gyfer y wobr fydd Oriel Môn, ac mae’n bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams ac Oriel Môn.
Cydlynydd y wobr yw: Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr, Oriel Môn.
Bydd unrhyw gais i’r gystadleuaeth yn waith fydd yn gymwys i’w alw’n lluniad ym marn y panel dewis. Diffinnir lluniad, i bwrpas y gystadleuaeth hon: fel gwaith celf gwreiddiol, mewn dau ddimensiwn, fel arfer ar bapur, wedi ei wneud o farciau graffig fydd yn cynnwys y defnydd o linell yn y llun.
Lawrlwythiadau
Archebu ar-lein
Bydd archebu ar lein yn cau ar 30 Tachwedd 2026 am 5pm
Prisiau
| Eitem | Pris |
|---|---|
| Un gwaith celf | £15.00 |
| Dau waith celf | £20.00 |
| Tri gwaith celf | £25.00 |