
30 Hydref
Hwyl Calan Gaeaf efo Catrin Angharad
Gweithdy Plant
Cewch ddysgu am straeon lleol drwy ganu, dawnsio a chwarae gemau Calan Gaeaf.
30 Hydref 1:30pm tan 2:30pm
Ymunwch â’n sesiwn llawn hwyl efo Catrin Angharad. Cewch ddysgu am straeon lleol drwy ganu, dawnsio a chwarae gemau Calan Gaeaf. Mae croeso i chi wisgo gwisg Calan Gaeaf.
Oed: Addas i blant iau 3+. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Pris: Am ddim
Rhaid archebu lle, gallwch wneud hynny ar y ddolen isod:
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost i: addysgorielmon@ynysmon.llyw.cymru
Grantiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy'r Tîm Amgueddfeydd, yr Is-adran Diwylliant, a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.
Archebu ar-lein
Bydd archebu ar lein yn cau ar 30 Hydref 2025 am 10am
Yn llawn