
Casgliadau Trafod i’w Benthyg
Mae casgliadau trafod yn ffordd effeithiol o ddod â’r amgueddfa i’r dosbarth neu leoliad cymunedol.
Mae ein casgliadau trafod yn cynnwys casgliad o ffotograffau, mapiau, arteffactau gwreiddiol, atgynhyrchiadau o wrthrychau, gwisgoedd a dogfennau. Maent wedi cael eu dylunio er mwyn cynorthwyo i gyflwyno gwahanol feysydd dysgu a phrofiad Cwricwlwm i Gymru. Ar gyfer grwpiau cymunedol gellir eu defnyddio i ddathlu digwyddiadau cymunedol, dyddiadau allweddol ac i hel atgofion.
Mae’r casgliadau trafod y gellir eu benthyg gan Oriel Môn ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Casgliadau Daeareg GeoMôn
- Oes y Cerrig
- Dulliau Ysgrifennu Eifftaidd
- Yr Oes Haearn - Gwehyddu
- Y Rhufeiniaid
- Y Llychlynwyr
- Yr Canol Oesoedd
- Y Tuduriaid
- Goleuni trwy'r Oes
- Crefydd - Iddewiaeth
- Crefydd - Cristnogaeth
- Crefydd - Islam
- Crefydd - Hindŵaeth
- Oes Fictoria - Y Cartref
- Oes Fictoria - Yr Ysgol
- Oes Fictoria - Gwisgoedd
- Oes Fictoria - Teganau
- Yr Ail Ryfel Byd – Y Rheng Gartref
- Yr Ail Ryfel Byd - Faciwîs
- Yr Ail Ryfel Byd – Y Rheng Flaen
- Trosedd a Chosb
- Amaethyddiaeth a Diwydiant
- Arian
- Llechi
- Gwisgoedd - ar gyfer oedolion a phlant
- Amser Hamdden Plant
- Ysgerbwd
- Bwyd
- Casgliadau Hel Atgofion
- 1960au
- Meteorynnau
Mae’r holl wrthrychau a gynhwysir yn y casgliadau trafod wedi’u bwriadu i fod yn addas i’w trafod yn ofalus, er mwyn ysgogi trafodaeth a dysgu. Mae’r gwasanaeth casgliadau trafod ar gael i ysgolion a grwpiau cymunedol ar Ynys Môn yn unig ar hyn o bryd.
Mae casgliadau trafod ar gael ar fenthyg am gyfnod a ffi benodedig (Maent am ddim i ysgolion sydd wedi tanysgrifio i'n CLG). Cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau am ein casgliadau trafod neu os ydych yn dymuno trefnu i gael benthyg casgliad trafod.