Neidio i'r prif gynnwys
Cefndir melyn gyda logo Oriel Mon ar yr ochor dde

Cysylltiadau Lliw

Arddangosfa Cysylltiadau Lliw gan Andrew Smith a John Hedley. 21/09/24 - 03/11/24

Cyhoeddwyd: 15 Awst 2024

Mae ‘Cysylltiadau Lliw’ yn dwy ynghyd dau artist sy’n gweithio gyda lliw. Mae’r arddangosfa yn gasgliad o drafodaethau parhaus dros nifer o flynyddoedd, sydd wedi arwain at gyfnod diweddar o gynhyrchu gwaith newydd a chydweithio gan y ddau artist, yn ogystal â safbwyntiau gwahanol ar liw. Mae’r ddau artist yn defnyddio dulliau a deunydd gwahanol i greu lliw cryf a llachar. Mae eu defnydd o drwytho a chyflenwi lliwiau yn gyffelyb.

Mewn perthynas ag arfer blaenorol, mae’r ddau artist wedi chwilio am eglurdeb pellach mewn cyd-destunau gwrthrychol a goddrychol ac mae’r ddau wedi datblygu portffolio paralel mewn lleoliadau gwahanol yng Nghymru, Ewrop ac yn fyd-eang. Er mwyn datblygu dealltwriaeth ac ymateb yn feirniadol i ddulliau creadigol y naill a’r llall, mae Smith a Hedley wedi gwneud cyfres o baentiadau yn eu stiwdios eu hunain wrth gynnal sgwrs feirniadol sydd, yn ei thro, wedi bwydo’n ôl i arddangosfa hon.