Neidio i'r prif gynnwys
Ffrwyn ceffyl a dolen gyfryw o’r Oes Haearn a gafodd eu darganfod yn ddiweddar.

Diwrnod Agored Archeoleg yn Oriel Môn

Mae Oriel Môn yn gyffrous i gynnal diwrnod llawn o ddarganfyddiadau archeolegol ar Ddydd Sadwrn, 18 Hydref

Cyhoeddwyd: 1 Hydref 2025

Mae Oriel Môn yn edrych ymlaen at gynnal diwrnod yn canolbwyntio ar ddarganfyddiadau archeolegol, ddydd Sadwrn 18 Hydref, rhwng 10:30am a 4:30pm. Mae rhywbeth at ddant pawb, o bobl sy’n ymddiddori mewn hanes, archeolegwyr brwd neu’r rheiny sydd eisiau diwrnod allan efo’r teulu!

Yn ystod y digwyddiad, cynhelir clinig darganfyddiadau PAS (Portable Antiquities Scheme) a gall ymwelwyr ddangos eitemau maen nhw wedi dod o hyd iddynt i arbenigwyr a dysgu mwy am eu hanes. Cliciwch ar y ddolen i gadw lle: PAS Cymru Finds Surgery - Anglesey Tickets, Sat, Oct 18, 2025 at 10:30 AM | Eventbrite

Ceir hefyd deithiau tywys, sgyrsiau diddorol a llu o stondinau amserol, clwb hanes i blant, a sesiwn wehyddu dan ddylanwad yr Oes Haearn. Addas ar gyfer oed 5+ rhwng 10:30 a11:30am a rhwng 1:00 a 2:00pm - dim angen cadw lle.

Mae’r Diwrnod Archaeoleg yn addo bod yn ddathliad addysgiadol ac ysbrydoledig o’n treftadaeth leol cyfoethog - ac mae’r cyfan am ddim.

Peidiwch â cholli’ch cyfle i ddysgu mwy am y gorffennol yn Oriel Môn!