
Ffair Grefftau Nadolig 2024
Ymunwch â ni ym mis Tachwedd ar gyfer ein Ffair Grefft Nadolig hardd.
Ewch i ysbryd yr wŷl yn Oriel Môn
Bydd croeso cynnes a llawen i chi gyd yn Oriel Môn fis Tachwedd wrth i ni ddechrau cyfnod o ddathlu’r Nadolig yn Oriel Môn gyda gwin cynnes a mins peis yn lansiad ein Ffair Grefftau Nadolig boblogaidd ar 8 Tachwedd am 6pm.
Ers agor ym 1991 mae Oriel Môn wedi cefnogi crefftwyr lleol drwy roi cyfle iddynt arddangos a gwerthu eu gwaith yn y Ffair Grefftau Nadolig boblogaidd hon. Mae Oriel Môn yn ymfalchïo mewn arddangos a gwerthu cynnyrch unigryw, sydd wedi’i wneud â llaw, o’r safon uchaf. Mae’r eitemau sydd ar werth yn amrywio o emwaith i gelfi, gwaith coed, sebon a chanhwyllau, clustogau, gwydr a thecstilau i addurniadau Nadolig hwyliog a gwahanol.
Meddai Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr Oriel Môn, “Mae’r Ffair Grefftau yn ddigwyddiad yr ydym i gyd yn edrych ymlaen ato yn yr Oriel a dyma ddechrau’r Nadolig i ni. Rydym yn falch o’r ansawdd a’r amrywiaeth o bethau ar werth. Bob blwyddyn, byddwn yn arddangos gwaith gwneuthurwyr newydd a chyffrous ynghyd â’r ffefrynnau gan sicrhau bod bob amser rhywbeth newydd a chyffrous i’w weld yma”.
Mae Siop Oriel Môn hefyd yn gwerthu nifer fawr o nwyddau a chynnyrch lleol a fyddai’n werth eu cael y Nadolig hwn. Boed chi’n chwilio am anrheg unigryw i rywun arbennig neu’n prynu rhywbeth i chi eich hun, gallwch gael popeth sydd ei angen arnoch yn Oriel Môn eleni. Er mwyn gorffen eich profiad siopa Nadolig, cofiwch stopio yn ‘Caffi Bach y Bocs’ er mwyn gweld y danteithion sydd ganddynt i’w cynnig. Er mwyn cysylltu â’r caffi anfonwch neges e-bost at caffibach@ybocs.cymru.
Ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno creu rhywbeth Nadoligaidd eu hunain, pam ddim ymuno â’n Gweithdy Torch Nadolig ar 26 Tachwedd rhwng 1:00pm a 4:00pm am £45. Mae gennym hefyd Weithdy Addurniad Cannwyll Nadoligaidd ar 13 Rhagfyr rhwng 2pm a 4pm am £37. Mae’r prisiau yn cynnwys deunyddiau a lluniaeth. Mae’n hanfodol eich bod yn cad eich lle, cysylltwch ag addysgorielmon@ynysmon.llyw.cymru / 01248 724444.
Bydd y Ffair Grefftau Nadolig ar agor tan 24 Rhagfyr ac yn cau yn fuan am 12:30pm Noswyl Nadolig. Bydd Oriel Môn hefyd yn cau’n gynnar Nos Galan ac ar gau ar 25 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr. Bydd amseroedd agor arferol yn ail ddechrau ar 2 Ionawr 2025, lle bydd Oriel Môn ar agor rhwng dydd Mawrth a dydd Sul rhwng 10am a 5pm, mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01248 724444 neu anfonwch neges at www.orielmon.org
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr: 01248 724444/ 01248 752014 NicolaGibson@ynysmon.llyw.cymru