
Oriel Môn yn dathlu statws achrediad
Mae Oriel Môn wedi llwyddo i gadw ei statws fel amgueddfa ac oriel achrededig.
Mae’r cynllun (sydd yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr) yn sicrhau bod amgueddfeydd ac orielau yn cael eu rheoli yn unol â’r safon sydd wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol.
Mae hyn yn cynnwys agweddau ymarferol megis diogelwch, arddangosfeydd a gofalu am gasgliadau, yn ogystal â chaniatáu mynediad i’r cyhoedd a chysylltu â hwy.
Y nod yw gwneud yn siŵr bod gan Oriel Môn drefniadau llywodraethu a’r ddealltwriaeth i ddiogelu ei chasgliadau a’i gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd Kelly Parry, Uwch Reolwr Oriel Môn, “Fel tîm, rydym yn falch iawn ein bod ni wedi ennill y statws amgueddfa ac oriel Achrededig unwaith eto. Mae’r tîm yma yn Oriel Môn wedi gweithio’n galed i amddiffyn a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant cyfoethog Ynys Môn, ac i rannu’r casgliadau unigryw sydd gan Oriel Môn â phawb.”
Mae gan Oriel Môn nifer o eitemau a gweithiau celf bwysig a diddorol a chafodd ei disgrifio fel “hwb cymunedol a lle balch ar Ynys Môn” gan yr aseswyr.
Mae rhai o gasgliadau’r amgueddfa’n dyddio’n ôl filoedd o flynyddoedd ac mae rhai o’r eitemau’n cynnwys bwyelli o’r Oes Haearn, darnau arian o gyfnod y Rhufeiniaid ac eitemau personol o longddrylliad y Royal Charter.
Mae’r casgliad celf yn cynnwys gweithiau celf nodedig gan Charles Tunnicliffe, Kyffin Williams, Harry Hughes Williams, y chwiorydd Massey a darnau a roddwyd yn rhodd i’r oriel yn ddiweddar gan ystâd yr artist Leonard McComb.
Mae’r Oriel Môn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn croesawu nifer o wahanol grwpiau ac Ysgolion drwy gydol y flwyddyn.
Does dim syndod bod Oriel Môn yn croesawu dros 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, o bell ac agos. Mae rhywbeth ar gael i bawb yn y siop, sy’n cefnogi crefftwyr lleol ac yn gwerthu nwyddau lleol, ac mae pawb sy’n ymweld â’r oriel wrth eu bodd â Chaffi Bach y Bocs.
Ychwanegodd deilydd portffolio Addysg a’r Gymraeg Ynys Môn, y Cynghorydd Dafydd Roberts, “Hoffwn longyfarch pawb yn Oriel Môn am ennill statws achredu unwaith eto. Mae’r Oriel yn parhau i fod yn boblogaidd gyda thrigolion ac ymwelwyr, gan ddarparu gofod i bobl gymdeithasu a dathlu hanes a threftadaeth gyfoethog Ynys Môn.”