Neidio i'r prif gynnwys
Tirluniau o gaeau a mynyddoedd o amgylch Nant Ffrancon

Tirluniau Rob Piercy

Bydd tirluniau Rob Piercy’n dychwelyd i Oriel Môn o 15 Mehefin 2024 tan 28 Gorffennaf 2024

Cyhoeddwyd: 13 Mai 2024

Mae Rob Piercy, yr artist tirlunio blaenllaw, eisoes wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’n cynulleidfaoedd yn Oriel Môn, ac rydym yn falch iawn o’i groesawu’n ôl eleni gydag arddangosfa unigol enfawr ‘Ysbryd Lle’, sy’n cyflwyno rhai o’i dirluniau gorau o ogledd Cymru.

Mae Rob Piercy wedi bod yn paentio’n broffesiynol ers dechrau’r wythdegau. Cafodd ei hyfforddi fel athro celf, a bu’n addysgu tan 1990 pan benderfynodd roi’r gorau i’w yrfa fel athro a chanolbwyntio ar ei waith celf. Roedd hynny’n benderfyniad dewr iawn bryd hynny o ystyried ei fod ef a’i wraig, Enid, yn magu teulu ifanc, yn talu morgais ac nad oedd ei oriel, sy’n boblogaidd iawn heddiw, wedi’i gorffen!

Mae Rob yn ddringwr profiadol tu hwnt, yn gyn-aelod o’r Alpine Club of Great Britain, ac mae wedi dringo sawl copa ym Mhrydain ac Ewrop. Nid yw’n syndod felly mai ei hoff thema yw’r mynyddoedd, yn enwedig y rheiny yn Eryri.

Dywedodd Rob, “Rwy’n dal i fwynhau’r bryniau a’r mynyddoedd, ond mae Crib Goch allan o’n nghyrraedd i’r dyddiau yma, ond rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn dal i allu cyrraedd y copaon is. Yn ffodus iawn, ceir pob math o dirluniau gwahanol, ac yma yng Nghymru mae gennym gyfoeth o dirluniau godidog sy’n cynnwys y mynyddoedd yn ogystal ag arfordir fendigedig, ffriddoedd llwm ac unig, llynnoedd hardd a dyffrynnoedd a phentrefi hyfryd. Mae hynny’n ddigon i gadw hen artist yn hapus am flynyddoedd.”

Mae Rob wedi dangos ei waith mewn sawl cystadleuaeth boblogaidd ledled y DU, yn benodol y Sunday Times Watercolour Competition, lle croesewir ei waith yn aml. Yn 2000, cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gelf Garrick/Milne, lle dyfarnwyd £20,000 i’r enillydd. Dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei enwi’n Arlunydd Cymraeg y Flwyddyn ac yn 2008 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf – ‘Mynyddoedd Eryri’. Yna, aeth ymlaen i gyhoeddi dau lyfr arall, un yn 2012, ‘Portmeirion - An Artist’s Perspective’ a ‘Cwm Idwal’ yn 2021.

Dywedodd Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr Oriel Môn, “Heddiw, mae gwaith Rob yn cael ei arddangos yn bennaf yn ei oriel ei hun yn Porthmadog, felly mae’n fraint ac yn anrhydedd ein bod ni’n cael dangos ei ddarluniau hyfryd yma yn yr Oriel. I’r rheiny sy’n dotio ar dirluniau, mae’r arddangosfa hon yn siŵr o’ch plesio”.

Mae ‘Ysbryd Lle’ yn agor ar 15 Mehefin, a gellir ei mwynhau yn Oriel Môn tan 28 Gorffennaf.