Neidio i'r prif gynnwys
Eitemau sy'n cael eu harddangos yn yr arddangosfa

Yn Unig Gyda’n Gilydd yn Oriel Môn

Bydd arddangosfa newydd yn agor yn Oriel Môn 23 Medi. Mae Yn Unig Gyda’n Gilydd yn arddangosfa gan dri artist benywaidd sef Jess Bugler RCA, Leonie Bradley a Prerna Chandiramani sy’n edrych ar natur unigrwydd, o arwahanrwydd i unigedd.

Cyhoeddwyd: 18 Medi 2023

Mae Leonie, Jess a Prerna yn cael eu hadnabod fel grŵp o artistiaid o’r enw SPIKED. Fe ddechreuon nhw weithio gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod clo, ac fe ddefnyddion nhw eu teimladau o or-bryder i edrych yn fanwl ar unigrwydd fel sbectrwm, gydag arwahanrwydd ar un pegwn ac unigedd ar y pegwn arall. Mae unigedd yn fath cadarnhaol o unigrwydd y mae nifer o bobl yn ei geisio.

Dywedodd Leonie Bradley “Wrth ddod at ein gilydd fel grŵp, gwnaethom ddadansoddi’r geiriau sy’n gysylltiedig ag unigrwydd, a chytuno ar set o saith gair a ddaeth yn sylfaen ar gyfer ein cyrff o waith: arwahanrwydd, unigrwydd, dieithrio, datgysylltiad, pellter, ar wahân ac unigedd.”

Mae pob artist yn ymateb yn wahanol i’r emosiynau ar y sbectrwm. Mae eu hymatebion yn cydblethu ond eto’n unigol: mae Bugler yn defnyddio mannau caeedig coediog; mae Bradley’n defnyddio symbol goriadau; a Chandiramani’n defnyddio iaith a phlygiadau. Mae’r gosodiad ei hun yn ffurfio llinell grom gyda’r gwaith celf yn creu caeadle a ellir ei edmygu o’r tu mewn. Mae ‘pegwn unigedd’ y sbectrwm yn eang ac yn groesawgar, mae’r ‘pegwn arwahanrwydd’ wedi’i weindio’n dynn ac yn glawstraffobig.

Dywedodd Chandiramani “Mae’r gweithiau celf wedi’u printio ar ddeunydd tryloyw, gan ddwysau bregusrwydd profiad unigol a chaniatáu’r gwyliwr i weld drwy’r haenau gwahanol, sy’n eu hatgoffa o’r cyffredinrwydd rydyn ni’n ei rannu.”

Bydd yr arddangosfa’n rhoi cyfle i ymwelwyr adlewyrchu ar ein profiadau unigryw o fod ar ein pen ein hunain yn ystod y cyfnod clo, a’r profiadau rydyn ni’n eu rhannu, drwy gymryd rhan yn y gwaith o greu gwaith celf newydd fydd i’w weld mewn lleoliad yn y dyfodol.

Dywedodd Bugler, “Mae deuoliaeth y teimlad o unigrwydd, sy’n ganolog i’n cyflwr dynol, wedi bod yn heriol a hynod ddiddorol wrth i’r prosiect hwn ddatblygu.”

Mae SPIKED yn grŵp o artistiaid sy’n creu gosodiadau sy’n edrych ar gyfathrebu a chof. Mae pob artist wedi derbyn Bwrsariaeth Peter Reddick, Innovation in Relief Printmaking, yn Stiwdio Spike Print, Bryste.

Mae Leoni Bradley yn aelod o Gymdeithas Frenhinol y Peintwyr-Gwneuthurwyr Argraffu. Cafodd Jess Bugler ei hethol i’r Academi Frenhinol Gymreig yn ddiweddar ac mae Prerna Chandiramani yn aelod o’r Cyngor Peintwyr-Gwneuthurwyr.

Gellir mwynhau Yn Unig Gyda’n Gilydd yn Oriel Môn tan 5 Tachwedd.