18 Chwefror - 8 Mehefin
Creu Celf â Phapur
Dyma arddangosfa ysbrydoledig wedi’i dethol gan Peter Moore. Yn edrych ar y gweithiau celf amrywiol y gellir eu creu ag un o’r deunyddiau mwyaf amlbwrpas papur.
18 Chwefror tan 8 Mehefin
Wedi’i ddyfeisio yn Tsieina 2000 o flynyddoedd yn ôl, papur yw’r deunydd sy’n cael ei ddefnyddio amlaf gan artistiaid, boed wedi’i wneud a llaw neu â pheiriant.Gellir ei fowldio, ei blygu, ei sychu mewn ffwrn, gwneud llun neu baentio arno. Fe all hefyd wrthsefyll pwysau sylweddol wrth gael ei rolio mewn peiriant argraffu.Mae’r arddangosfa’n dangos gwaith gwahanol artistiaid yn cynnwys arlunwyr, argraffwyr, brodwyr, cerflunwyr a chrochenwyr.
