
Pete Jones
Cynefin
Mae “Cynefin” gan Pete Jones yn cyfleu’r nodweddion yn ein hamgylchedd sy’n cydblethu a’r profiadau sy’n ein dylanwadu.
21 Mehefin tan 27 Gorffennaf
Artist

Bywgraffiad
Pete undertook “formal” art training with the completion of a degree in Fine Art (Painting) during 1983. He considers that his real learning was undertaken through life experience and a return to painting following a 30 year break to work as a learning disability nurse. Since his return to painting in 2015, his work has become part of the collections of the National Library of Wales and National Museum of Wales.
Mae “Cynefin” yn cyfleu’r nodweddion yn ein hamgylchedd sy’n cydblethu a’r profiadau sy’n ein dylanwadu. Maent yn siapio’r ffordd yr ydym ni’n meddwl, dehongli a gweithredu a chreu ymdeimlad o berthyn – tymhorol, corfforol, diwylliannol ac ysbrydol. Dywedodd Pete Jones, “Mae llinyn sy’n plethu’i hun drwy fy ngwaith. Mae fy mhaentiadau’n cyfleu fy ymateb emosiynol i bobl a llefydd. Alla i ddim darogan pen llanw’r broses ond rydw i’n ceisio cyfleu naws lle, adeg benodol neu ysbryd yr unigolyn. Mae’r arddangosfa’n cynnwys casgliad o baentiadau sy’n trafod “Cynefin” o wahanol safbwyntiau”.
