Neidio i'r prif gynnwys
Car arian yn rhedeg oddi ar ochr chwith y sgrin a chefn llygad y dydd yn y canol.
8 Mawrth - 27 Ebrill

Huw ‘Huwco’ Jones

5 Degawd

5 Degawd

Mae’r casgliad hwn yn edrych yn ôl ar baentiadau Huw ‘Huwco’ Jones dros gyfnod o 5 degawd, o’i baentiad olew cyntaf pan roedd yn 14 oed i’w waith cyfoes.

Arddull

Abstract

Cyfrwng

Cyfryngau Cymysg

Mae’r darnau’n amrywiol iawn ac mae’r casgliad yn cynnwys paentiadau ffigurol mewnblyg lled-haniaethol, paentiadau hynod realistig sydd bron iawn yn edrych fel ffotograffau a phaentiadau sy’n dathlu’r byd naturiol. Mae ei waith yn newid yn raddol o un cyfnod i’r llall ond ei brif awch wrth greu’r paentiadau oedd gwneud synnwyr o’r byd o’i gwmpas a mwynhau’r her o baentio. Mae nifer o’r darnau’n cael eu harddangos am y tro cyntaf. 

Darlun panoramig o'r arddangosfa.
Darlun panoramig o'r arddangosfa.