
Jane Duff
Mae’r arddangosfa hon yn gofnod o’n tirweddau naturiol ac mae’n ble i gydnabod pa mor fregus a phwysig ydynt cyn i ni golli’r cyfle.
3 Awst tan 15 Medi 2024
Jane Duff
Cân y Gwyllt
Cefais fy magu yng ngogledd Cymru ac rwyf wastad wedi mwynhau dringo mynyddoedd a cherdded y tir, yn enwedig ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Rwy’n chwilio am lefydd gwyllt anghysbell er mwyn ceisio dod o hyd i lonyddwch, tawelwch a naws ysbrydol tirwedd naturiol ddigyffwrdd, a hynny yw sail fy arddangosfa, ‘Cân y Gwyllt’. Bellach, mae fy nghartref ar lethr sydd â golygfa o’r Rhinogydd tua’r gorllewin a Chader Idris tua’r de. Mae tir fferm, coetiroedd collddail a Choed y Brenin islaw, ac uwchben fy nghartref mae gorgors fawr, felly rwy’n hynod o lwcus o gael amrywiaeth o dirweddau o fy amgylch i gael fy ysbrydoli ganddynt.
Rwy’n paentio’n emosiynol ac yn reddfol gyda brwshis mawr, ac yn aml ar raddfa fawr hefyd, gydag olew. Mae paentio yn yr awyr agored ger rhaeadrau, o dan glogwyni, ar gorsydd, ger aberoedd ac yn uchel yn y mynyddoedd yn golygu bod yn rhaid bod yn drefnus, ac mae’n gofyn am ymdrech gorfforol sylweddol (ac ymbarel mawr!) ond mae gwneud hynny’n apelio at fy angen i fod yn yr awyr agored ym myd natur. Mae hefyd yn dwysau’r synhwyrau ac yn golygu y gall pethau annisgwyl ymddangos, fel fflach o liw neu belydryn o haul. Yn y pen draw, rwyf am i fy ngwaith celf fod o werth arbennig wrth imi geisio tynnu sylw at harddwch cywrain a bregus yr amgylchedd a’i gynefinoedd amrywiol, gan obeithio ysbrydoli’r sawl sy’n edrych arno i’w gwerthfawrogi a’u gwarchod, yn ogystal â gwarchod y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt.
Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi treulio llawer o fy mywyd yn byw yng Nghymru ac rwy’n gobeithio bod fy nghariad at fy mamwlad i’w weld yn amlwg yn fy narluniau.
Rwyf wedi arddangos fy ngwaith yn eang yn y DU gyda dwy arddangosfa unigol fawr yn 2020 a 2022, a sioeau ar y cyd yn ddiweddar gyda Chymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydain a’r ING Discerning Eye yn y Mall Galleries yn Llundain, lle dyfarnwyd Gwobr Ranbarthol Cymru imi.
Mae catalogau ar gyfer fy arddangosfa ar werth am £7 o’r siop, ac mae cardiau ar gael yno hefyd.
Instagram: janeduffart
E-bost: jane@janeduff.co.uk
Arddangosion
Oriel o 11 arddangosion