
25 Ionawr - 13 Gorffennaf
Melinau Gwynt Ynys Môn
Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno detholiad o waith celf a dogfennau hanesyddol o gasgliadau Oriel Môn ac Archifau Ynys Môn.
25 Ionawr tan 13 Gorffennaf
Mae Ynys Môn yn le gwyntog, ac mae ei thrigolion wedi manteisio ar y ffynhonnell ddefnyddiol hon ers canrifoedd lawer, fel math o ynni adnewyddadwy. Yn ystod y 18fed a 19eg ganrif, adeiladwyd bron i 50 o felinau gwynt ar yr Ynys. Cawsant eu defnyddio i falu grawn, pwmpio dŵr a rhedeg peiriannau.Mae’r melinau hyn yn nodwedd amlwg iawn yn ein tirlun hanesyddol, ac maent wedi denu sylw artistiaid.Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno detholiad o waith celf a dogfennau hanesyddol o gasgliadau Oriel Môn ac Archifau Ynys Môn sy’n edrych ar apêl weledol a hanesyddol yr adeiladau eiconig hyn.