Neidio i'r prif gynnwys

Jane Bunce

Portread o Jane Bunce

Bywgraffiad

Ar ôl cwblhau Hyfforddiant fel dylunydd tecstilau a phapur wal, gweithiais yn y diwydiant am 30 mlynedd.

Rwyf bellach wedi ymddeol ond rwy’n parhau i baentio gyda lliwiau dŵr a gouache yn fy stiwdio ar Ynys Môn.

Pryd bynnag y byddaf yn mynd i gerdded, byddaf yn llenwi fy mhocedi gyda phlanhigion, cregyn, cerrig mân ac unrhyw beth diddorol i’w astudio gartref, ac yna byddaf yn eu hymgorffori yn fy lluniau.

Ni fyddaf yn cyfeirio at ffotograffau, mae’n well gennyf dreulio amser yn edrych ar yr adar y byddaf yn eu paentio.

Mae fy ngwaith yn ddathliad syml o fy angerdd tuag at natur, ac rwy’n gobeithio fod y lluniau’n mynegi’r pleser rwy’n ei deimlo wrth i’r tymhorau gwahanol gynnig trysorau i’w mwynhau.