Liz Toole

Bywgraffiad
Mae Liz Toole yn wneuthurwr printiau ac arlunydd sydd â diddordeb mawr mewn adar.
Mae Liz yn defnyddio adar a phrofiadau bywyd i adrodd stori.
Mae’r printiau sgrin a’r printiau leino ac yn cael eu dylunio a’u printio gyda llaw gan ddefnyddio papur gwneud printiau ac inciau arbennig. Mae lliwiau’n rhan hollbwysig o’i gwaith, ac yn y gorffennol, defnyddiodd gyfuniad o 60 o liwiau er mwyn creu print sgrin dau liw, yn disgwyl am fflach o athrylith.
Mae’n mwynhau gwneud printiau am ei bod yn dysgu rhywbeth o hyd, sy’n cadw ei gwaith yn ddiddorol a ffres, ac mae hefyd yn defnyddio dull printio llaw i greu amrywiaeth o gardiau cyfarch a llyfrau nodiadau/braslunio eco- gyfeillgar.
Mae Liz hefyd yn arlunydd, ac mae’n casglu’r rhan fwyaf o’r pren ar hyd llwybr arfordir Cymru. Mae’n rhyfeddu at y ffordd mae’r darnau o bren yn creu teimlad o hanes a chymeriad ar gyfer ei adar. Cafodd ei hysbrydoli i baentio ar bren ar ôl cyfarfod grŵp o artistiaid brodor wrth fyw yn Affrica, o’r enw The Weya Women.
Bydd Liz yn cymryd rhan yn Stiwdios Agored Ynys Môn, ac mae’n gwahodd ymwelwyr i wylio ei harddangosfeydd yn gwneud printiau ac yn siarad am adar, gwneud printiau ac Ynys Môn.