Neidio i'r prif gynnwys

Mary Jane Flower

Portread o Mary Jane Flower

Bywgraffiad

Rydw i wrth fy modd efo’r môr erioed, ac wedi treulio llawer o fy mywyd yn hwylio ar y Fenai. Ar ôl cwblhau gradd mewn celf gain, teithio a hwylio ar y môr, gwnaethom setlo ym Miwmares, Ynys Môn.

Mae Biwmares yn edrych allan dros y Fenai gyda golygfeydd o liwiau mynyddoedd Eryri. Rydw i eisiau cyfleu’r gwahanol ymdeimladau a symudiadau ar Ynys Môn, o’r moroedd sy’n troelli i’r mynyddoedd mawr sydd o’n cwmpas ni.

Monoprintiau yw’r rhan fwyaf o’m gwaith, techneg wnes i ddod ar ei thraws wrth gwblhau fy ngradd gyntaf. Rwy’n paentio ar wydr ac yn printio ar galico. Rydw i wrth fy modd pan fydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd oherwydd allwch chi ddim gwybod yn iawn sut fydd print yn edrych nes iddo sychu.