Archeoleg
Mae gan Oriel Môn gasgliad helaeth o eitemau archeolegol a ddarganfuwyd yn Ynys Môn.
Maent yn amrywio o arteffactau fflint Mesolithig, rhai 9,000 o flynyddoedd oed, i wrthrychau Ôl-ganoloesol.
Mae llawer yn ddarganfyddiadau hap a damwain gan aelodau'r cyhoedd, sy’n cynnwys eitemau a ddarganfuwyd â synwyryddion metel.
Mae Oriel Môn hefyd yn storfa ar gyfer cloddiadau a reolir yn broffesiynol a gynhelir ar yr ynys. Daw rhai ohonynt o safleoedd cyn eu datblygu, megis prosiect Atomfa Wylfa Newydd a Pharc Diwydiannol Parc Cybi ger Caergybi.
Mae modd gweld copi o bolisi dyddodi archeolegol Oriel Môn yma.