Defnyddio'r casgliad
Mae casgliadau yn diogelu treftadaeth Ynys Môn. Fe'u defnyddir hefyd at ddibenion ymchwil, astudio ac addysgol.
Mae gan Oriel Môn wrthrychau, gweithiau celf ac eitemau sydd â chysylltiad ag Ynys Môn neu sy'n berthnasol iddi. Fe'u cedwir mewn ymddiriedolaeth i helpu i ddiogelu ein treftadaeth a'n traddodiadau. Caiff rhai eitemau eu harddangos yn barhaol, tra caiff eraill eu dangos mewn sioeau â thema fel rhan o'n rhaglen arddangos dros dro.
Defnyddir casgliadau hefyd at ddibenion ymchwil, astudio ac addysgol. Fel amgueddfa achrededig rydym hefyd yn rhoi benthyg casgliadau i sefydliadau tebyg eraill.