Sgip i'r prif gynnwys

Leonard McComb

Yn 2020, derbyniwyd detholiad mawr o waith Leonard McComb a oedd yn gysylltiedig ag Ynys Môn trwy rodd garedig ei chwaer, Anne Draycott.

Ganwyd Leonard McComb RA yng Nglasgow ym 1930. Astudiodd yng Ngholeg Celf Manceinion, ac ym 1961, cyflawnodd radd ôl-raddedig mewn cerfluniaeth yn Ysgol Gelf y Slade. A hwnnw’n arlunydd amryddawn, cynhyrchodd McComb baentiadau, lluniau, printiau, cerfluniau, mosaigau a thapestrïau.

Bu’n dysgu celf mewn sawl sefydliad, Prifysgol Oxford Brookes, Coleg Syr John Cass, Ysgol Gelfyddyd Gain y Slade, y Coleg Celf Brenhinol a Choleg Goldsmiths, ac ym 1974, sefydlodd Goleg Celf Sunningwell, Rhydychen. Fel arlunydd enwog, arddangoswyd ei waith mewn orielau yn y DU ac yn rhyngwladol. Fe’i etholwyd yn aelod cyswllt o’r Academi Frenhinol ym 1987, a daeth yn aelod llawn ym 1991. Ym 1995, cafodd ei ethol yn Geidwad yr Academi Frenhinol, a thrwy hynny daeth yn gyfrifol am Ysgolion yr Academi Frenhinol tan 1998.

Roedd ei fam yn byw ym Menllech, a byddai’n mynd yno’n aml i aros gyda hi yn ei byngalo a oedd yn edrych dros y môr. Roedd arfordir dwyreiniol Ynys Môn yn ysbrydoliaeth aruthrol iddo, a chynhyrchodd sawl darn o waith yma. Bu’n byw ac yn gweithio yn ei stiwdio yn Brixton, Llundain tan ei farwolaeth yn 2018.

Yn 2020, derbyniwyd detholiad mawr o’i waith a oedd yn gysylltiedig ag Ynys Môn trwy rodd garedig ei chwaer, Anne Draycott.

Ar hyn o bryd rydym yn cynllunio arddangosfa ôl-weithredol o waith yr arlunydd a fydd yn cael ei dangos yn Oriel Kyffin Williams yn 2025.

Creigiau yn Ynys Môn
Creigiau yn Ynys Môn
Harbwr Amlwch
Harbwr Amlwch
Bae Benllech
Bae Benllech
Sied gyda choed
Sied gyda choed
Llun o leaonard McComb
Leonard McComb