Sgip i'r prif gynnwys

Y Chwiorydd Massey

Roedd Gwenddolen ac Edith Massey wedi creu casgliad prydferth a chywir iawn o fywyd botanegol yr ynys yn y cyfnod.

Roedd Gwenddolen (1864 -1960) ac Edith Massey (1863 – 1946) yn ddwy chwaer fu’n byw ym Mhlas Cornelyn, Ynys Môn ar ddiwedd y 19eg/ ddechrau’r 20fed Ganrif. Gyda’i gilydd maent wedi creu casgliad prydferth a chywir iawn o fywyd botanegol yr ynys yn y cyfnod.

Byddai Edith yn casglu’r planhigion a Gwenddolen oedd yr artist. Byddent yn teithio yn aml o amgylch yr ynys i sicrhau eu bod yn cynnwys holl fywyd gwyllt unigryw Môn. Bu iddynt gynhyrchu dros 500 sgets mewn cyfanswm. Mae Oriel Môn yn ffodus o gael casgliad sylweddol o’i gwaith. Mae gwaith y chwiorydd yw weld ar arddangos yn barhaol yn yr amgueddfa.