Neidio i'r prif gynnwys
Ffotograff o Dr Toby Driver
19 Mawrth

Derwyddon ac Ellyllesau gan Dr Toby Driver

Oes yr Haearn

Darganfod pobl Oes yr Haearn Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru.

Lleoliad

Ystafell Tunnicliffe

Ymunwch â Dr Toby Driver lle bydd y ddarlith hon yn edrych ar y dystiolaeth archeolegol anhygoel ar gyfer bywyd yn Oes yr Haearn yng ngogledd-orllewin Cymru, yn cynnwys olion bryngaerau a chlystyrau cytiau sy’n dal i fod mewn cyflwr da, a thystiolaeth o ddiwydiant, rhyfela, credoau, a gwrthdaro â’r Rhufeiniaid. Bydd Dr Toby Driver yn arddangos rhai o’r darganfyddiadau diweddaraf o Lyn Cerrig Bach a Llu Awyr Brenhinol y Fali, yn ogystal â thrafod arolygon drôn newydd o gaerau arfordirol Ynys Môn gan y Comisiwn Brenhinol.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, archebwch eich un chi heddiw!

Archebu ar-lein

Wedi cau

Mae archebu ar-lein bellach wedi car ar gyfer y digwyddiad hwn24 Chwefror 2026 am 11am

Ffotograff o'r llyfr The Hillforts of Iron Age Wales
Mae Dr Toby Driver yn Uwch Ymchwilydd Arolygon o’r Awyr yn y Comisiwn Brenhinol, Cymru, ac mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar archeoleg yng Nghymru, gan gynnwys y gyfrol hynod boblogaidd, ‘Hillforts of Iron Age Wales’ (Logaston Press 2023). Gyda’i gydweithwyr bu’n cloddio a chynnal arolygon ym mryngaer Dinas Dinlle, Llu Awyr Brenhinol y Fali a chaerau ar bentiroedd arfordirol Cymru.