Neidio i'r prif gynnwys
Darlun o cenin pedr gan y Chwiorydd Massey.
21 Mawrth

Gŵyl Y Gwanwyn

Dathlu'r Gwanwyn

Dathliad o grefftau a sgiliau treftadaeth, natur, archaeoleg a chelf yn Oriel Môn.

Lleoliad

Oriel Môn

Ymunwch â ni yng Ngŵyl Wanwyn Oriel Môn i ddathlu crefftau a sgiliau treftadaeth, natur, archeoleg a chelf! Bydd y diwrnod llawn hwyl hwn yn cynnig rhywbeth i bawb, gyda gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd ysbrydoledig a stondinau diddorol i’w darganfod.

Darganfyddwch dechnegau tecstilau traddodiadol gydag Urdd Gwehyddion, Nyddwyr a Lliwyddion Gwynedd, lle gallwch wylio arddangosfeydd a rhoi cynnig ar rai o’r sgiliau. Byddwch yn greadigol yn y Llwyfan Mapiau Cyhoeddus fydd yn cynnig argraffu natur ac ysgrifennu ar ffabrig, yn ogystal â gwaith digidol ar dabledi, neu mwynhewch weithgareddau celfyddyd gwnïo gyda Canvas & Cloth. Os ydych yn mwynhau gweithio gyda deunyddiau naturiol, beth am roi cynnig ar weithgareddau gwehyddu helyg gyda Wispy Willows a chreu nythod helyg prydferth, a bydd gan Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr stondin wybodaeth a gweithgaredd gwehyddu moresg.

Bydd rhywbeth ar gyfer pobl sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth a natur hefyd. Ymunwch â Bexi Owen am weithdy canu Celtaidd bendigedig, neu ewch am dro gyda Jules Cooper i ddysgu am dwrio am fwyd. Bydd digon i’w ddarganfod am fywyd gwyllt a chadwraeth leol hefyd. Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnal gweithgaredd archwilio pyllau a bydd cyfle i ddysgu am y prosiect Corsydd Calon Môn, neu beth am ymweld â’r Sea Watch Foundation i ddysgu am y prosiect Caru’r Cefni trwy gelf a chrefft, a darganfod mwy am ymdrechion cadwraeth Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru trwy eu gweithgaredd Mamaliaid Hudol. Bydd Cymdeithas Gwenynwyr Môn yn arddangos cwch gwenyn a byddant yn rhannu gwybodaeth am Gacwn Meirch Asiaidd a chadw gwenyn, tra bydd prosiect Afonydd Menai Menter Môn yn darparu gweithgareddau gwybodaeth a gemau diddorol. Ymunwch â Geomon i archwilio cysylltiadau rhwng pobl, lleoedd a’r dirwedd trwy brosiectau celfyddydol a chymunedol megis Stitched to the Ground. Bydd gan Heneb weithgaredd prosesu ffibrau, a gallwch ddysgu am wehyddu a’r broses lifo yn yr Oes Haearn.

Er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu cyrraedd yr Ŵyl Wanwyn yn Oriel Môn yn rhwydd, bydd bws wennol rad ac am ddim yn rhedeg trwy’r bore a dechrau’r prynhawn. Bydd y daith gyntaf yn cychwyn am 10:00 y bore o Archifau Ynys Môn a bydd yn stopio ger y Llyfrgell am 10:10 ac yna ym maes parcio’r Eglwys am 10:20, cyn teithio i Oriel Môn. Bydd y bws wedyn yn gadael Oriel Môn am 10:45 y bore ac yn dychwelyd ar hyd yr un llwybr, gan ailadrodd y daith hon bob awr tan 3:00 y pnawn. Gall ymwelwyr ymuno â’r bws yn unrhyw un o’r mannau aros a mwynhau taith syml a chyfleus i’w ŵyl.

Gyda chymaint o brofiadau creadigol, addysgol ac ymarferol i roi cynnig arnynt, mae’r Ŵyl Wanwyn yn Oriel Môn yn argoeli i fod yn ddiwrnod bywiog a chofiadwy i ymwelwyr o bob oed. Dewch draw, cymerwch ran a dathlwch y gwanwyn gyda ni!

Heneb Logo
Heritage fund logo
Magic Mammals logo
Natural Resources Wales
AONB Logo
Red Squirrels Trust Wales logo