Neidio i'r prif gynnwys
Delwedd gwlân o dŷ yn y coed.
19 Medi

Gŵyl yr Hydref

Dathlu’r Hydref

Dathliad o grefftau a sgiliau treftadaeth, natur, archaeoleg a chelf yn Oriel Môn.

Lleoliad

Oriel Mon

Ymunwch â ni yng Ngŵyl Hydref Oriel Môn am ddathliad hwyliog o grefftau a sgiliau treftadaeth, natur, archeoleg a chelf! Mae gan y diwrnod hwyliog hwn rywbeth i bawb gyda gweithgareddau ymarferol, ymarferion ysbrydoledig ac arddangosfeydd diddorol i’w profi. Hwyl i’r teulu i gyd ac AM DDIM.

Darganfyddwch dechnegau tecstilau traddodiadol drwy arddangosfeydd a bydd cyfle i chi roi cynnig ar ychydig o sgiliau crefft treftadaeth. Os ydych chi’n mwynhau gweithio â deunyddiau naturiol, cymerwch ran yn y gweithgareddau gwehyddu traddodiadol.

Mae rhywbeth i’r rhai sy’n caru cerddoriaeth a natur hefyd gyda chyfleoedd i fwynhau sesiynau llesiant awyr agored, gweithdai cerddoriaeth wedi eu hysgogi gan draddodiadau lleol a gweithgareddau tywys i edrych ar chwilota, moddion naturiol a chysylltu â’r byd naturiol. Bydd hefyd digon i’w ddarganfod am fywyd gwyllt lleol, cynefinoedd a chadwraeth gyda gweithgareddau rhyngweithiol, celf a chrefft a chyfleoedd i ddysgu mwy am amddiffyn a gofalu am yr amgylchedd.

Ymchwiliwch i amrywiaeth o fentrau amgylcheddol a chymunedol drwy arddangosfeydd, gweithgareddau ymarferol a gemau i’r teulu oll. Darganfyddwch brosiectau creadigol sy’n cysylltu pobl, lle a thirluniau drwy gelf ac adrodd straeon.

Camwch yn ôl mewn amser gyda gweithgareddau archeolegol gan gynnwys cyfle i greu broetsh Oes Haearn a dysgu mwy am y llysiau blas a’r sbeisys a ddefnyddiwyd ym Môn yn ystod y cyfnod canoloesol. Darganfyddwch pa blanhigion a ddefnyddiwyd i roi blas i fwyd a pha rai oedd â gwerth meddygol ac ymarferol ychwanegol.

Gyda chymaint o brofiadau creadigol, addysgol ac ymarferol i roi cynnig arnynt bydd Gŵyl Hydref Oriel Môn yn ddiwrnod bywiog a diddorol i ymwelwyr o bob oed. Dewch draw i gymryd rhan ac i ddathlu’r hydref efo ni!

Bydd digon i’w weld, i’w wneud a’i ddysgu yn ystod Gŵyl Hydref Oriel Môn, lle ceir amrywiaeth o grefftwyr lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau yn ymuno â ni yn ystod y dydd. Rhowch gynnig ar wneud crefftau traddodiadol, sgiliau coetir a gwneud cynnyrch naturiol, o blethu Moresg gydag Anglesey Outdoor Learning a phlethu helygen gyda Wispy Willow, i waith coed gydag Ynys Twca a gwneud balmau ac elïoedd naturiol gyda Maeth Natur. Rhowch gynnig ar greu bagiau a baneri print llaw gyda Canvas and Cloth, dysgwch fwy am nyddu, gwehydda a lliwio neu ewch ati i feithrin sgiliau cyn hanesyddol, dysgu am dechnolegau a bywyd dydd i ddydd gydag arddangosfa hanes byw'r oes Efydd ac Oes y Cerrig gan Ancient Craft. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau Ioga Forrest gyda Gudrun Rieck, dysgu mwy am fywyd gwyllt, coedwigoedd ac arfordiroedd Ynys Môn gyda Menter Môn, Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru, Coed Lleol, Seawatch Foundation a’r Bartneriaeth Natur Leol, a dathlu 60 mlynedd o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn. Bydd Heneb, GeoMôn, Grŵp Coetir Cymunedol Llyn Parc Mawr a llawer mwy yn cymryd rhan, felly bydd rhywbeth ar gael at ddant pawb, felly dewch i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd.