Neidio i'r prif gynnwys
Delwedd a gymerwyd o lyfr Anglesey Cynhanesyddol am ddarganfyddiadau Cromlech.
12 Medi

Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn

Taith Gerdded

Ymunwch â ni am daith gerdded yn y prynhawn o Fenllech i Gromlech Pant y Saer, ac yna arteffactau a phaned yn Oriel Môn.

Lleoliad

Benllech / Oriel Môn

Mae'r daith gerdded fer hon, a drefnir gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Môn ac Oriel Môn, yn cychwyn am 1:00pm yn Llyfrgell Benllech. Mae'r daith yn mynd â ni i Gromlech Pant y Saer, ac ar ôl sgwrs fer gan yr archeolegydd Frances Lynch, byddwn yn mynd i weld yr anheddiad cytiau crynion cyfagos.

Yna byddwn yn dychwelyd i Oriel Môn lle byddwn yn mwynhau panad ac yn cael golwg agos ar rai o'r arteffactau gwreiddiol a ddarganfuwyd o'r safleoedd.

Man Ymgynull: Llyfrgell Benllech (tu cefn i Siop y Co-Op sydd ar y brif ffordd rhwng Sgwar Benllech â Phorthaethwy. LL74 8TF)

Amlinelliad: Rhyw filltir o gerdded ym Mhenllech er mwyn ymweld â Phant y Saer. Yna gyrru i Oriel Môn i weld y trysorau a ddarganfyddwyd ar y safle. Cofiwch wisgo 'sgidia' call er mwyn osgoi llithro yn y caeau o amgylch Pant y Saer.

Am ddim i aelodau Hynafiaethwyr, i bobl nad ydynt yn aelodau byddai rhodd fach yn Oriel Môn yn cael ei groesawu.
I archebu lle defnyddiwch y ddolen isod.

Archebu ar-lein

Bydd archebu ar lein yn cau ar 12 Medi 2026 am 10am

14 lle ar gael

Archebwch ar-lein - dolen allanol yn agor mewn tab newydd

Prisiau

EitemPris
Taith yr HynafiaethwyrAm ddim