
Dysgu Cymunedol
Amgueddfa ac Oriel sy’n cynnig mynediad rhad ac am ddim yw Oriel Môn ac mae croeso i bawb ddod i weld, darganfod a chreu. Mae ein horielau’n newid yn rheolaidd ac mae rhywbeth newydd i’w weld yn ein hamgueddfa bob amser. Ar ddiwrnodau heulog gallwch grwydro o gwmpas ein llecyn awyr agored sy’n gyfeillgar i natur – cadwch lygaid am wiwerod coch!
Y Nyth Bach
Yn ein hamgueddfa byddwch yn gweld Y Nyth Bach, gofod a grëwyd ar gyfer ein hymwelwyr iau. Yno byddwch yn darganfod digonedd o lyfrau darllen Cymraeg a Saesneg, teganau pren, posau a jig-sos i chwarae â nhw. Mae’r byrddau a’r cadeiriau bychain yn cynnig lle perffaith i dynnu llun, gwneud sgets a lliwio gyda’ch gilydd.
Gweithdai ar gyfer Plant a Theuluoedd
Rydym yn cynnig gweithdai gydag artistiaid lleol, awduron a’n Tîm Dysgu drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mwynhau dathlu Gŵyl Amgueddfeydd Cymru bob Hydref. Nod ein gweithdai yw arddangos ein casgliadau ac arddangosfeydd gorau ac annog plant i fod yn greadigol! Yn ystod gwyliau’r haf rydym yn cynnal Clwb Hanes a Chlwb Celf. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys galeri a llwybr arddangosfa, ac amser i fod yn greadigol yn Ystafell Charles Tunnicliffe. Mae’r sesiynau hyn yn para hyd at ddwy awr ac weithiau codir ffi fechan tuag at gostau deunyddiau. Gofynnir i oedolion aros gyda’r plant – bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gael eich ysbrydoli a chael hwyl gyda’ch gilydd!
Gweithdai ar gyfer Oedolion
Rydym yn trefnu gweithdai a sgyrsiau cyffroes ar gyfer oedolion drwy gydol y flwyddyn. Mae cost y sesiynau hyn yn amrywio, ond mae’n cynnwys costau deunyddiau a hyfforddiant gan staff profiadol a gweithwyr proffesiynol. Yn y gorffennol rydym wedi cynnal gweithdai gwneud torchau, paentio, gwnïo i ddechreuwyr a chyflwyniad i wneud printiau. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu cyrsiau creadigol byr ar gyfer grwpiau unigol.
Sut ydw i’n cymryd rhan?
Edrychwch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu’r adran digwyddiadau ar ein gwefan am newyddion am weithdai sydd ar y gweill i blant, teuluoedd ac oedolion. Cysylltwch â ni os hoffech awgrymu gweithdy arbennig, neu i dderbyn rhagor o wybodaeth.