
Ymweliadau Addysgol ag Archifau Ynys Môn
Gall grwpiau ysgol neu goleg ymweld ag Archifau Ynys Môn trwy gydol y flwyddyn.
Rydym yn cynnig gweithdai amrywiol sy’n archwilio themâu’n gysylltiedig â chasgliadau’r archifau. Mae ymweliadau’n cynnwys taith dywys o gwmpas adeilad yr archifau, gan gynnwys ein cyfleuster storio POD, yr ystafell ymchwilio, ‘Tu ôl i’r Llenni’ a mynediad i'n gofod dysgu.
Yn ystod yr ymweliad, gall myfyrwyr astudio dogfennau gwreiddiol, megis ffotograffau, mapiau, llyfrau cofnodion a phapurau newydd sy’n berthnasol i’ch thema. Gellir teilwra gweithdai i gyd-fynd â’ch gofynion a chyfoethogi dysgu yn y dosbarth. Oherwydd cyfyngiadau maint yr adeilad archifau a’r cyfleuster storio POD, cyfyngir niferoedd i 25 disgybl ar gyfer pob ymweliad.
Dyma enghreifftiau o rai o’n gweithdai addysg fwyaf poblogaidd:
Yr Ail Ryfel Byd: Bywyd ar Ynys Môn ar y Rheng Gartref
Gan edrych ar ddogfennau, mapiau a ffotograffau amrywiol, bydd plant yn dysgu am hanes yr ardal leol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd myfyrwyr yn gwneud tag faciwî eu hunain a byddant yn dysgu am ddogni ac am fywyd ar Ynys Môn yn ystod y cyfnod hwn. I gyd-fynd â’r gweithdy hwn, bydd bodd cyflwyno casgliadau trafod y Rheng Gartref, y Rheng Flaen a Faciwîs.
Trosedd a Chosb
Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio casgliadau o Archifau Ynys Môn i astudio cosbau hanesyddol, Carchar Biwmares, plismona ar Ynys Môn a sut mae’r system gosbau wedi newid. Gall dogfennau’r Llys Chwarter gyfoethogi’r sesiwn hon a gellir dewis dogfennau’n ymwneud â throseddau neu ddalgylchoedd penodol. Mae’r ymweliad hefyd yn cynnwys cyfle i archwilio eitemau o’n casgliad trafod a gwisgoedd trosedd a chosb.
Oes Fictoria
Yn ystod yr ymweliad hwn mae cyfle i astudio ffotograffau sy’n dogfennu gwahanol agweddau o fywyd ar Ynys Môn yn ystod Oes Fictoria. Gellir teilwra’r gweithdy hwn ar gyfer pob ysgol unigol neu’r dalgylch, a gall gynnwys defnyddio mapiau a llyfrau cofnodion ysgolion. Gellir cyfoethogi’r ymweliad trwy ddefnyddio ein casgliadau trafod yr ysgol Fictoraidd, teganau neu’r cartref. Gellir defnyddio’r casgliad o wisgoedd Fictoraidd hefyd.
Y Royal Charter
Bydd myfyrwyr yn dysgu am hanes trasig y Royal Charter trwy gyfrwng ffotograffau, cardiau post a chofnodion plwyf. Mae llyfryn gweithdy pwrpasol ar gael i fyfyrwyr ei gwblhau yn ystod eu hymweliad, a gellir archwilio ein casgliad trafod unigryw yn gysylltiedig â’r Royal Charter.
1960au
Trwy archwilio casgliad o bapurau newydd, dogfennau a ffotograffau bydd plant yn dysgu am fywyd ar Ynys Môn yn y 1960au. Gellir teilwra’r gweithdy hwn er mwyn cynnwys digwyddiadau mawr y ddegawd, gan gynnwys datblygiadau’r gofod a boddi Tryweryn, yn ogystal â bywyd bob dydd yng Nghymru ar yr adeg hon. Gellir cynnwys defnyddio casgliad trafod y 1960au fel rhan o’r sesiwn.
‘Cynefin’ - Fy Milltir Sgwâr
Gellir datblygu’r gweithdy hwn i gyd-fynd â’r themâu sy’n cael eu hastudio yn yr ystafell ddosbarth. Bydd myfyrwyr yn archwilio eu ‘cynefin’ trwy edrych ar ddetholiad pwrpasol o ddogfennau, ffotograffau, mapiau a chardiau post o’r casgliadau archifau. Bydd y gweithdy hwn yn cael ei ddatblygu gyda staff addysgu er mwyn diwallu gofynion pob grŵp unigol.
Cysylltwch â ni i weld beth sydd ar gael, archebu eich ymweliad, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag ymweld ag Archifau Ynys Môn.