
Ymweliadau Addysgol ag Oriel Môn
Mae croeso i grwpiau ysgol a choleg ymweld ag oriel ac amgueddfa Oriel Môn trwy gydol y flwyddyn.
Rydym yn cynnig ystod eang o weithdai ar themâu sy’n gysylltiedig â’n casgliadau ac arddangosfeydd. Mae ymweliadau’n cynnwys taith dywys o’n horielau neu’r amgueddfa, tasgau i fyfyrwyr ei gwblhau a gweithgaredd perthnasol yn ein gofod dysgu pwrpasol. Gellir trafod y posibilrwydd o addasu ymweliadau gyda’n Tîm Dysgu er mwyn diwallu eich anghenion penodol a chyfoethogi dysgu yn y dosbarth.
Dyma enghreifftiau o rai o’n gweithdai mwyaf poblogaidd:
Celf Charles Tunnicliffe
Mae Oriel Môn yn gartref i gasgliad parhaol o waith gan Charles F. Tunnicliffe. Mae gan Oriel Tunnicliffe gasgliad o waith celf a llyfrau brasluniau Tunnicliffe sy’n cynnwys astudiaethau o fywyd gwyllt, tirweddau a nodweddion pensaernïol. Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys llwybr oriel er mwyn archwilio Oriel Tunnicliffe, a thasgau creadigol wedi’u hysbrydoli gan waith Charles Tunnicliffe.
Celf Kyffin Williams
Mae gwaith Kyffin Williams yn cael ei arddangos sawl gwaith y flwyddyn, naill ai yn Oriel Kyffin Williams, neu yn yr amgueddfa, yn ddibynnol ar y rhaglen o arddangosfeydd. Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys llwybr oriel a gweithdy, wedi’i ysbrydoli gan waith a thechnegau artistig Kyffin Williams.
O Oes y Cerrig i’r Oes Haearn
Mae’r ymweliad addysgol hwn yn cyflwyno archaeoleg a’r Cyfnod Cyn Hanes. Mae’r ymweliad yn cynnwys llwybr amgueddfa er mwyn gweld arteffactau yn yr amgueddfa a gweithgareddau sy’n cael eu hysbrydoli gan ein casgliadau trafod. Mae’r casgliadau trafod Oes Haearn yn cynnwys atgynhyrchiadau o arteffactau arbennig Llyn Cerrig Bach i fyfyrwyr eu harchwilio.
Y Rhufeiniaid ar Ynys Môn
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ymweld â’r amgueddfa i weld arteffactau, gan gynnwys eitemau o Dai Cochion. Mae’r arteffactau hyn yn cynnwys crochenwaith Rhufeinig amrywiol, enghreifftiau o emwaith a darnau o arian. Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys amser i archwilio ein heitemau Rhufeinig a’n casgliad trafod, cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau addas â thema Rufeinig.
Y Royal Charter
Mae’r ymweliad hwn yn cynnwys taith dywys yn yr amgueddfa er mwyn archwilio’r arddangosfa barhaol o arteffactau o longddrylliad y Royal Charter. Mae gweithgareddau a gynhelir yn ein gofod dysgu pwrpasol yn cael eu hysbrydoli gan ein casgliad trafod unigryw o arteffactau gwreiddiol o’r Royal Charter.
Hanes Ynys Môn a ‘Chynefin’
Trwy archwilio ystod eang o eitemau sy’n cael eu harddangos yn yr amgueddfa, bydd myfyrwyr yn dysgu am Ynys Môn o Oes y Cerrig hyd at yr 20fed Ganrif. Mae’r eitemau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys offer a phennau bwyelli Oes y Cerrig, cerflun Pen Hendy ac yrnau claddu o’r Oes Efydd. Mae gweithgareddau ar gyfer y gweithdy hwn yn cael eu creu ar sail unigol.
Y Celfyddydau Mynegiannol
Trwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnal arddangosfeydd celf amrywiol yn ein horielau gelf sy’n dathlu Ynys Môn. Mae artistiaid yn arddangos gwaith a ysbrydolwyd gan dirweddau, natur, pobl a threftadaeth yr ardal. Gellir teilwra ein gweithdai celfyddydau mynegiannol i gyd-fynd â’ch anghenion ac maent yn cynnwys sesiwn yn yr oriel a gweithdy creadigol.
Er mwyn archebu ymweliad, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag ymweld ag Oriel Môn, cysylltwch â’r Tîm Dysgu.