Neidio i'r prif gynnwys
Paentiad lliwgar o bedwar person yn eistedd rownd bwrdd.

Arddangosfa Agoriadol Lwyddiannus i Gerda Roper yn Oriel Môn

Ar Fedi 20fed agorodd Gerda Roper ei harddangosfa - Dawnsio i Gerddoriaeth Amser

Cyhoeddwyd: 1 Hydref 2025

Daeth cynulleidfa frwdfrydig, enfawr i Oriel Môn brynhawn 20 o Fedi i ddathlu agoriad arddangosfa newydd gan yr artist, Gerda Roper – Dawnsio i Gerddoriaeth Amser.

Agorwyd yr arddangosfa’n swyddogol gan Rhun ap Iorwerth roddodd ganmoliaeth i waith Gerda, am ei defnydd o liwiau llachar a’r emosiwn cryf o fewn y lluniau. Yn ei araith, tynnodd Rhun sylw at bwysigrwydd cefnogi’r celfyddydau yn Ynys Môn a chanmol Oriel Môn am barhau i gynnig llwyfan i artistiaid o’r un safon a Gerda.

Mae gyrfa Gerda Roper yn ymestyn dros nifer o ddegawdau, a siaradodd yn annwyl am ei chysylltiad â Chymru, ei ysbrydoliaeth artistig, a’i gwerthfawrogiad am y gefnogaeth mae’r oriel a’r gymuned wedi ei rhoi iddi.

Roedd yr arddangosfa’n cyflwyno casgliad arbennig o waith diweddar Gerda yn ogystal â darnau penodol o ddechrau ei gyrfa, gan roi cyfle prin i ymwelwyr brofi datblygiad ei llais artistig.

Dywedodd y Rheolwr Profiad Ymwelwyr, Nicola Gibson: “Rydym yn falch iawn o’r ymateb a’r dyrfa ddaeth i weld gwaith Gerda. Mae’n braf gweld cymaint o bobl yn ymwneud â’r arddangosfa, ac rydym yn falch o fod wedi cael croesawu artist mor llwyddiannus”.

Bydd yr arddangosfa yn Oriel Môn tan 2/11/25 ac mae croeso cynnes i bawb.