Neidio i'r prif gynnwys
Pedwar darlun gan y pedwar artist
9 Gorffennaf - 6 Hydref

Stiwdio Gelf Gorffennaf i Hydref 2024

Mae'r gofod yma yn estyniad o’n siop, mae ein harddangosafa-micro chwarterol yn arddangos ac yn hyrwyddo artistiaid sy’n gweithio drwy wahanol gyfryngau.

Arddull

Amrywiaeth

Cyfrwng

Cyfryngau Cymysg

Gallwch fynd â gwaith celf fforddiadwy adref efo chi ar y diwrnod.

Ieuan Williams

Ganwyd Ieuan Williams ym Mhenbedw (Birkenhead), a symudodd i Fôn i ddilyn gyrfa mewn dylunio graffeg a dylunio arwyddion.

Astudiodd yng Ngholeg Celf Caer a Choleg Celf Caerdydd, gan gwblhau gradd BA Anrhydedd.

Mae Ieuan wedi cynnal nifer o arddangosfeydd llwyddiannus ledled Cymru, o Ynys Môn lawr i Gaerdydd, ac mae ei baentiadau i’w gweld yn:

 

Yr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Arddangosion

Oriel o 4 arddangosion

Paentiad o Penmon gyda buwch yn y front
Teitl:

Penmon

Paentiad o adeilad gwyn yn edrych dros y straights
Teitl:

Ynys Gorad Goch

Paentiad o Ynys Môn yn y pellter gyda'r môr a'r tir ar y tyblaen
Teitl:

Ynys Môn o Ynys Seiriol

Darlun o Tryfan
Teitl:

Tryfan

Julie Roberts

Rydw i wedi bod yn paentio gan ddefnyddio dyfrlliw, acrylig ac olew ers nifer o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod clo penderfynais arbrofi gyda gwahanol gyfryngau a dechrau defnyddio gwlân Cymreig a gwnïo manylion i mewn i fy nelweddau.
Mae tirlun Gogledd Cymru yn ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith ac mae defnyddio gwlân fel defnyddio rhan o’r tirlun i greu darlun.

Arddangosion

Oriel o 5 arddangosion

Darlun ffeltio o bwthyn ac eglwys y Môr
Teitl:

Eglwys y Môr

Darlun ffeltio o blwch ffôn yn Maenaddwyn
Teitl:

Tŷ'n Maenaddwyn

Darlun ffeltio o tŷ fferm
Teitl:

Tŷ Fferm, Dolgarog

Darlun ffeltio o fwthyn hefo gardd mawr llawn blodau a gwair
Teitl:

Ty'n Rardd

Darlun ffeltio o goedwig llawn clychau'r gog
Teitl:

Coedwig

Aled Lewis

Dechreuodd fy angerdd am ffotograffiaeth pan o’n i’n ifanc iawn (amser maith yn ôl!), pan gefais i gamera Kodak Electralite 10 yn anrheg pen-blwydd pan oeddwn i’n 10 oed. Yn fuan, symudais ymlaen at gamera Olympus AF-10 35mm compact, a byddwn yn edrych ymlaen yn arw at ddatblygu’r lluniau ac yn aros yn eiddgar iddynt gyrraedd drwy’r post!

Heb amheuaeth, uchafbwynt fy nhaith ffotograffiaeth oedd ennill Gwobr y Ffotograffydd Tirluniau yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Prydain 2022, gyda’m llun o fynydd Tryfan, sydd i’w weld yma yn yr arddangosfa. Cefais gymeradwyaeth yng nghystadleuaeth Ffotograffydd Tirluniau’r Flwyddyn yn yr un flwyddyn. Mae fy lluniau hefyd wedi’u cynnwys mewn amrywiol gylchgronau gan gynnwys y Digital Photography Magazine, Country Life Magazine, Golwg, ac ar glawr blaen cylchgrawn y Sunday Times.

Fy angerdd go iawn yw tynnu lluniau o dirluniau. Rydw i’n byw mewn rhan brydferth o Ogledd Cymru ac mae hyn yn rhoi cyfle i mi dynnu lluniau’r tirluniau mwyaf anhygoel. Mae gen i ddewis enfawr o’m cwmpas – o fynyddoedd a dyffrynnoedd Eryri, sy’n llawn ysbrydoliaeth, i forliniau garw Gwynedd ac Ynys Môn.

Arddangosion

Oriel o 4 arddangosion

Ffotograff o'r goeden unig wedi'i hargraffu ar alwminiwm.
Teitl:

Y goeden unig

 Ffotograff o oleudy Penmon gyda'r goleuadau aurora yn y cefn
Teitl:

Penmon Aurora

Llun Tryfan, mynydd yn y cefn gyda llyn yn y canol
Teitl:

Tryfan

Ffotograff o Landdwyn gyda'r machlud yn y cefn
Teitl:

Machlud twr mawr

Judith Donaghy

Fe’m ganed yn Frodsham, tref fach ddymunol iawn yn Swydd Gaer. Hyfforddais fel dylunydd tecstilau cyn mentro i fyd celfyddyd gain. Mae fy mhaentiadau olew lled-haniaethol yn cyfleu fy nghariad tuag at natur, lliw a gwead. Maent wedi’u hysbrydoli gan yr arfordir, cefn gwlad a blodau.

Rydw i’n creu’r darnau o’m cof a thrwy edrych ar frasluniau. Byddaf yn canolbwyntio ar brofiadau y gall pawb uniaethu â hwy. Ni fyddaf yn paentio yn yr awyr agored yn aml iawn. Mae’n well gen i ddychwelyd i’r stiwdio i ddehongli’r darluniau yr ydw i wedi’u creu yn fy meddwl mewn ffordd unigryw ac artistig gan ddefnyddio paled o liwiau sydd wedi’u dewis yn arbennig. Yr unig eithriad ydi fy mhaentiadau o flodau lle byddaf yn amgylchynu fy hun â blodau ac yn eu trefnu mewn gwahanol jariau a fasys.

Rydw i wedi bod yn gwneud hyn ers i mi dderbyn cymaint o flodau hyfryd gan ffrindiau a theulu pan gollais fy mab. Doeddwn i ddim eisiau eu hanghofio ac felly dechreuais eu paentio. Ar ôl postio llun o un o’r paentiadau ar y cyfryngau cymdeithasol roeddwn wedi synnu gyda’r ymateb a gefais. 6 mlynedd yn ddiweddarach rydw i’n dal i fwynhau paentio blodau tymhorol ac maent ar werth mewn orielau ledled Cymru a Lloegr.

Mae Gogledd Cymru, Ynys Môn yn benodol, bob amser yn fy ysbrydoli. Mae ei thraethau, y môr a’r awyr a’i thirwedd garw bob amser yn newid ac felly mae ganddi bob amser rywbeth gwahanol i’w gynnig. Mae’r themâu yma’n ymddangos dro ar ôl tro yn fy ngwaith. Rydw i’n gobeithio bod fy ngwaith yn dod â llawenydd i bawb ac yn gwneud iddynt deimlo’n dda.

Arddangosion

Oriel o 4 arddangosion

Paentiad o gaeau gyda thair colomen yn eistedd ar ganghennau ar y blaen
Teitl:

Tri colomen

Paentiad o'r môr gyda llawer o gwch hwylio
Teitl:

Clwb Hwylio

Paentiad o flodau gwyn mewn fâs
Teitl:

Blodau

Paentiad o flodau pinc hardd yn eistedd mewn fâs
Teitl:

Blodau Pink