Sgwrs Blynyddol Kyffin Williams 2023
Ymunwch ag Arfon Haines Davies yn Oriel Môn wrth iddo hel atgofion am ei gyfeillgarwch â Kyffin Williams.
Mae tocynnau'n £5 yr un gyda gwydraid o wîn canmoliaethus.
I archebu lle cysylltwch â: 01248 724 444
neu e-bostiwch: orielmon@ynysmon.llyw.cymru
Arfon Haines Davies
Wedi’i eni yng Nghaernarfon yn fab i weinidog Wesle, bu Arfon yn byw mewn sawl rhan o Gymru yn ystod ei ieuenctid oherwydd gwaith ei dad. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn yn Aberystwyth, Ysgol Glan Clwyd yn Y Rhyl, Coleg y Drindod Caerfyrddin a’r Central School of Speech and Drama yn Llundain.
Ar ôl cyfnod byr yn addysgu, ymunodd â HTV Cymru ym 1975 fel cyhoeddwr ac am dros 30 mlynedd roedd yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd y sianel. Yn ystod y cyfnod hwn, bu hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni dogfen, chwaraeon ac adloniant ysgafn i HTV. Yn ogystal â hyn, ymddangosodd ar gyfresi fel ‘Pen-blwydd Hapus’ a ‘Pacio’ ar S4C.
Cafodd Arfon ei urddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2014 ac yn 2022, derbyniodd Wobr John Hefin am ei gyfraniad oes i ddarlledu yng Nghymru.
Wedi prynu ei ddarlun cyntaf gan Kyffin Williams bron i hanner can mlynedd yn ôl, cyfarfu Arfon â Kyffin yn dilyn hynny trwy ei waith teledu ac fe ddaeth y ddau yn gyfeillion agos.