Sgip i'r prif gynnwys
09.09.23 - 10.03.24

David Nash

Arddangosfa yn amlygu perthynas unigryw gyda choed,nid yn unig fel deunydd crai i gerfluniau ond hefyd wrth ddod yn fwy ymwybodol o'u pwysigrwydd i'n hecosystem

David Nash: Gweld Coed yn Oriel Môn

“Mae coed yn dangos eu hoed drwy eu gwedd. Mae coed a phren bob amser yn dangos eu lle a’u cynnydd yn y cylch gwych hwn o lanw a thrai, gan ymdopi â phob tywydd ac amser”.

David Nash

Am y tro cyntaf erioed, mae Oriel Môn yn falch o gyflwyno arddangosfa o waith ar bapur gan artist a cherflunydd byd-enwog, David Nash. Mae’r arddangosfa, Gweld Coed, yn agor ei drysau yn Oriel Kyffin Williams, Oriel Môn ar 9 Medi.

Dangoswyd y prif gorff o waith yn Yorkshire Sculpture Park yn 2022 fel rhan o ddigwyddiad i ddathlu perthynas hir David Nash gyda’r parc, a chydnabod ei waith 2D. Gan fod nifer o’r darluniadau wedi’u cysylltu â gogledd Cymru, gyda chartref a stiwdio Nash ym Mlaenau Ffestiniog, Oriel Môn oedd y dewis amlwg i gynnal arddangosfa arbennig, sydd hefyd yn cynnwys nodwedd ar Ash Dome, gwaith plannu gan Nash sy’n cael ei ddathlu’n fawr.

Mae David Nash wedi treulio’i fywyd artistig yn datblygu astudiaeth ar goed a phren, gan amsugno gwybodaeth drwy brosiectau plannu â llaw a gwneud gweithiau cerfluniol. Er hyn, mae darlunio wedi bod yn rhan annatod o’i waith. Mae’r arddangosfa hon yn Oriel Kyffin Williams, Oriel Môn yn dathlu lluniau David Nash o goed, sydd wedi cynnig pwnc, deunydd ac ysbrydoliaeth hael ers pum degawd.

Mae Gweld Coed yn cydio yn y berthynas agos hon gyda’r darluniau’n amrywio o’r arsylwadol a dogfennol i weithiau lliw haniaethol sy’n cydio yn hanfod eu ffrwyth a’u grym.

Dywedodd Ian Jones, Rheolwr Casgliadau, Oriel Môn, “Mae llawer yn ymwybodol ac yn rhyfeddu at waith David gyda phren a chelf amgylcheddol, ond bwriad yr arddangosfa hon yw tynnu sylw at ei sgiliau fel dyluniwr. Mae darlunio’n rhan hollbwysig o’r gwaith cerflunio ac mae’n dangos ei ffordd o feddwl. Fel y gwelwch yn yr arddangosfa, maent yn ddatganiadau grymus, ac yn amlygu eu hunain yn wych o fewn Oriel Kyffin Williams”.

Dywedodd David Nash, “Ganwyd fy nhad yng ngogledd Cymru. Roedd ei waith yn Llundain, ond roedd ei galon wedi’i gwreiddio yn lle cafodd ei fagu. Yn ystod pob gwyliau Pasg, haf, hanner tymor yr hydref a gwyliau’r Nadolig, byddwn yn mynd yn y car i aros yn Llan Ffestiniog gyda’i rieni. Rwyf wedi meithrin profiad o natur a’r tymhorau drwy fod ymysg y coed yng nghwm Ffestiniog, ac yno rwy’n teimlo mod i gartref. Roeddwn bob amser yn darlunio’n blentyn, a gwnaeth hynny wedi fy arwain at fynd i’r ysgol gelf a dod yn artist yng ngogledd Cymru”. Mae’r gwaith yn ymestyn dros gyfnod o bum degawd, ac mae’r amrywiaeth o ddarluniau’n adlewyrchu prosesau a mathau gwahanol o greu marciau, o graffit mân i siarcol trwchus, ac ysbeidiau o liwiau syfrdanol wedi’u hychwanegu drwy ddefnyddio lliain. Mae Big Beech Going at Space (1978), gwaith cynnar dynamig yn Llan Ffestiniog, yn cyfleu’r ynni a ddaw o dyfu a hynny drwy linellau minimalaidd a thrawiadol. Daw’r uniongyrchedd hwn o ddarlunio bywyd y tirlun a chaiff ei yrru gan rinweddau arbennig y coed a’r amgylchedd. Mae gweithiau eraill yn adlewyrchu pellter sylweddol, wedi’u creu yn y stiwdio ac yn canolbwyntio ar ymgorffori ymdeimlad rhinweddau megis lliw, fel y gwelir mor amlwg yn Red Tree (2012) neu May (2020) a July (2020) sy’n cydio a distyllu’r lliwiau’r byd natur o’n cwmpas. Mae lle fel arfer yn cael ei adlewyrchu’n uniongyrchol yn y broses, gyda’r artist yn defnyddio deunyddiau megis rhedyn yn Cae’n-y-Coed (1980) a’r ddaear o’r llawr ar gyfer Ash Dome (2007). Cafodd Autumn Leaves in a River, November, Llan Ffestiniog (1983), eu creu gan ddefnyddio dail unigol ag inc, a gan ollwng y papur yn nŵr yr afon i greu haenau o ddwyseddau gwahanol ac i adlewyrchu natur y gwaith o greu.

Dywedodd Sarah Coulson, Uwch Guradur Yorkshire Sculpture Park “mae’r arddangosfa’n adlewyrchu ynni ac angerdd gwych gan ddyluniwr medrus ac unigryw”.

delwedd ⓗ Jonty Wilde
delwedd ⓗ Jonty Wilde
delwedd ⓗ Jonty Wilde
delwedd ⓗ Jonty Wilde
llun o coed mewn siarcol du
delwedd ⓗ Jonty Wilde
delwedd ⓗ Jonty Wilde
Panoramic shot o'r arddangosfa
09.09.23 - 10.03.24