Sgip i'r prif gynnwys
09.03.24 - 21.04.24

Glyn Davies

Mae 2024 yn garreg filltir i’r ffotograffydd tirweddau proffesiynol,Glyn Davies BA,gan ei bod yn nodi ei benblwydd yn 60 a gyrfa sydd wedi rhychwantu 40 mlynedd

Yma o Hyd!
Nid ‘trem yn ôl’ yw’r arddangosfa hon fel y cyfryw, ond casgliad sylweddol o brintiau o hoff ffotograffau Glyn a dynnwyd yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn ffotograffau o Eryri ac Ynys Môn ble bu Glyn yn byw am ran helaeth o’i fywyd, ond ceir delweddau o arfordir Cernyw hefyd, sef bro ei febyd, ac ambell ddelwedd ddiddorol iawn o rannau eraill o’r byd.

Mae’n anodd crynhoi 40 mlynedd o greu delweddau mewn un arddangosfa, ond rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r detholiad cyfoethog a ddewiswyd gan Glyn.

09.03.24 - 21.04.24