Sgip i'r prif gynnwys
27.04.24 - 09.06.24

Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig

Daw’r arddangosfa hon, ‘Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig’, â phum artist cyfoes ynghyd y mae eu dulliau wedi eu gwreiddio yn nhir Cymru.

Ar 27 Ebrill, agorwyd y drysau yn Oriel Môn ar gyfer arddangosfa boblogaidd. Mae ‘Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig’ yn cynnwys pum artist cyfoes sydd wedi gwreiddio eu dulliau artistig yn nhir Cymru. Mae’r meddyliau blaenllaw benywaidd y tu ôl i’r arddangosfa hon i gyd wedi’u magu yn ystod y 70au a’r 80au cynnar, fel y’u gelwir yn ‘Generation X’, pan roedd unigolion benywaidd cryf a chydraddoldeb yn cael eu dathlu mewn cerddoriaeth, ffasiwn a chelf. Mae’r arddangosfa yn goctêl o waith celf oesol a theimladwy.

Mae Angie Hoopert, Jane Paice, Catherine Taylor Parry, Louise Morgan a Wendy Lawrence i gyd wedi dilyn llwybrau gwahanol yn ystod eu gyrfaoedd, ond drwy drefnu ambell gyfarfod nawr ac yn y man, mae eu llwybrau wedi’u harwain i Oriel Môn. Bu Angie a Catherine yn ffodus i gwrdd trwy Helfa Gelf, ac yn dilyn hynny, maent wedi cynnal sawl arddangosfa ar y cyd ac wedi ffurfio cyfeillgarwch cadarn. Bu i Catherine a Wendy gwrdd drwy waith Wendy fel mentor DAC ac roedd yn edmygu ei cherfluniau gwych. Roedd Louise, Wendy a Catherine yn grŵp bach o artistiaid o Ogledd Cymru a oedd yn arddangos yn Ffair Gelf Caer, lle cafodd Catherine y cyfle i dreulio amser gyda Louise a gwerthfawrogi ei phaentiadau, ac yna aeth Louise ati i wahodd Catherine i arddangos yn ei horiel ym Mangor, Galeri 45. Daeth Louise, Catherine a Jane ar draws ei gilydd tra’n arddangos yn unigol yn yr arddangosfa 'Life Full Colour'.

Er mwyn creu’r arddangosfa ‘Pedair Arlunwraig a Cherflunwraig’ roedd angen dod o hyd i le addas i’w chynnal, a rhywle oedd yn plesio’r pum artist. I rai yn y grŵp, roeddynt wedi arddangos eu gwaith yn Oriel Môn yn y gorffennol, ond i eraill o ogledd ddwyrain Cymru, mae’r oriel yn rhywle maent wedi’i edmygu ac wedi mwynhau ymweld ag o. Dywedodd Catherine, trefnydd yr arddangosfa, “Gofynnais i gael arddangos gwaith y grŵp yn Oriel Môn gan fod yr Oriel yn cadw amrywiaeth ddiddorol o arddangosfeydd, dylanwad Kyffin Williams ac oherwydd safon arbennig yr arddangosfeydd a welir yno’n rheolaidd. Mae ein gwaith wedi’i wreiddio yn nhirlun Cymru, felly mae’r Oriel mewn lleoliad perfformiad i ddangos y gwaith sydd wedi’i greu a’i ddatblygu gan y tir rydym yn byw arno.”

Ganwyd Louise Morgan RCA ym Mangor ac mae bellach yn byw yng Nhregarth. Mae ei gwaith yn llawn mynegiant, technegau marcio cymhleth ac mae ganddi arddull y gellir ei adnabod yn syth boed yn baentio mynydd neu tyrfa o bobl. Mae ei gwaith wedi’i ysbrydoli gan amrywiaeth o ddylanwadau, gan gynnwys tirlun Cymru, etifeddiaeth diwydiannol, profiadau bywyd personol a materion cyfredol. Cafodd ei harddangosfa flaenorol ar y cyd â’r artist Gilly Thomas yn Oriel Môn, ‘Art as Antidote’, a’i harddangosfa unigol ‘Figuratively Speaking’ yng Nghaernarfon eu cynnwys yn y 10 Prif Arddangosfa gan Artistiaid Cymreig, 2022 a 2023, gan Wales Arts Review Magazine

Mae Angie Hoopert yn cael ei hysbrydoli’n gyson gan ei hamgylchedd. Graddiodd o Fryste yn 1991 gyda gradd BA (Anrh) mewn Dylunio Graffig a Darlunio. Ers hynny mae Angie wedi ymgymryd â rolau creadigol amrywiol gan gynnwys bod yn gyd-berchen ar ei horiel ei hun. Ers 2009, mae wedi bod yn datblygu ei chariad at greu paentiadau o’i thref enedigol, yr Wyddgrug, gan ddefnyddio olew ac wedi’i hysbrydoli gan dir a morluniau lleol Cymru, ac yn enwedig yr awyr sy’n newid yn barhaus. Mae ei chorff diweddaraf o waith a grëwyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa hon yn tynnu ar y berthynas rhwng tywydd a hwyliau pobl. Dywedodd Angie “Mae’n gyffrous ac yn anrhydedd cael arddangos yn Oriel Môn am y tro cyntaf ochr yn ochr â phedair artist benywaidd gwych. Tra bod ein gwaith yn amlwg yn wahanol, mae yna gyffredinedd cytûn, cysylltiad organig a pharch tuag at ein hamgylchedd Cymreig, a gobeithio mai’r arddangosfa hon yw’r gyntaf lle byddwn yn cydweithio gyda’n gilydd”. Mae Jane Paice yn cael ei hysbrydoli gan odidogrwydd y tir a’r môr o amgylch ei chartref ar Ynys Môn. Mae hi hefyd yn treulio oriau yn crwydro mynyddoedd a ceudyllau Eryri, yn braslunio, peintio a chael cysur o fawredd a pharhad mawreddog byd natur. Meddai “Mae fy nghelfyddyd yn cael ei hysbrydoli gan bob agwedd ar fy mywyd, o fy mhlentyndod yn Swydd Gaerhirfryn i gyffuniau fy nghartref presennol ar Ynys Môn. Ar gyfer yr arddangosfa hon, rwyf wedi archwilio treftadaeth gyfoethog diwydiant copr Cymru a’i gysylltiadau anorfod â’r arfordir. Rwyf wedi edrych ar gyfosodiad moroedd stormus, deinamig a llonyddwch aflonydd ceudyllau dwfn, tanddaearol. Os edrychwch yn ofalus, efallai y byddwch yn gweld ambell i longddrylliad, arfau wedi'u gadael neu ddelweddau ysbrydion y cenedlaethau a fu. Byddaf yn defnyddio’r thema hon ar gyfer fy arddangosfa unigol, ‘Elfennau’, yn Oriel Môn yn hwyrach eleni”.

Mae Wendy Lawrence, y cerflunydd yn y grŵp, wedi datblygu arddull bersonol o weithio gyda serameg, gan ymateb i rinweddau tirwedd a daeareg sy’n ei hysbrydoli’n weledol ac yn emosiynol, gan wneud darnau sy’n ceisio dal grym ffurf a gwead naturiol. Dywedodd Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr, Oriel Môn “Mae gwaith y pum artist yn amrywio’n fawr, ond mae cysylltiad agos rhwng y ffordd maent yn teimlo dros y deunyddiau maent yn eu defnyddio a’r cysylltiad emosiynol sydd gan bob un gyda’i pwnc. Mae hon yn arddangosfa bwysig sy’n adlewyrchu dulliau arloesol a chyffrous a ddefnyddir gan artistiaid benywaidd sy’n gweithio yng Nghymru heddiw”.

Ffotograff o Angie Hoopert yn ei stiwdio
Angie Hoopert

Mae Angie yn artist sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd Cymru. Mae’n cael ei hysbrydoli’n gyson gan yr hyn sydd o’i hamgylch, y tir hardd, y môr a’r nenlen, ac yn y blynyddoedd diweddar maent wedi dod yn ganolbwynt ei phaentiadau.

Mae awyrau sy’n newid o hyd wedi dod yn bwnc amlwg iawn, “Dwi’n cael fy synnu’n aml gan yr harddwch nefolaidd sy’n cael ei roi i ni gan y tywydd, yn enwedig ar hyd ein harfordir, ac rwy’n teimlo dan orfod i gydio yn yr ymdeimlad a’r emosiynau rwy’n eu profi. Rwy’n defnyddio atgofion a synhwyrau, yn ogystal â ffotograffau a brasluniau, ond yn fwy aml na pheidio, byddaf yn paentio rhywbeth sy’n wahanol iawn.”

“Yn fy mhaentiadau, rwy’n ceisio dehongli ymdeimlad y digwyddiadau atmosfferig hyn – cyffro’r goleuni, dawns y cymylau, a’r berthynas rhwng lliwiau. Boed yn storm sy’n treiddio dros y môr neu fachlud araf yn adlewyrchu ei dywyn cynnes, rwy’n ceisio cydio’r munudau cyflym hyn er mwyn cadw gafael arnynt am byth. Rwyf hefyd yn cael fy ysbrydoli’n fawr iawn gan yr ymdeimlad o dawelwch a llonyddwch sydd i’w gael yn y bryniau neu ar yr arfordir. Does dim ond harddwch i’w gael, hyd yn oed mewn storm. Mae pob eiliad yn wahanol, o awyrau tywyll, sŵn y tonau’n taro ac adar yn sgrechian i lonyddwch tawel, sirioldeb, ac ysgafnder y golau. Rwy’n wir obeithio bod yr ymdeimlad o dawelwch, myfyrdod, dihangdod a gobaith yn cael eu hadlewyrchu yn fy mhaentiadau”.

ffotograff o Catherine Taylor Parry yn ei stiwdio
Catherine Taylor Parry

O fewn ei gwaith, mae Catherine yn ceisio edrych yn fanwl ar dirlun gogledd Cymru a gweddillion, neu dystiolaeth o ddiwydiant y gorffennol a’r presennol. Mae’n mynd ati i adeiladu haenau o baent a lliw gan newid edrychiad a theimlad y llun. Mae’r olygfa o fynyddoedd pell yn fan cychwyn y broses o efelychu awyr wedi’i orchuddio â fflachiadau o oren, tawelwch a llonyddwch y tywod disglair neu fynyddoedd yn y niwl. Mae ei thirluniau haniaethol yn dangos ei diddordeb yn arwyneb y tir a beth sy’n gorwedd oddi dano.

Mae ei phaentiadau’n berthnasol i bob cyfnod, ac maent yn orlawn o atgofion a chyffyrddiadau o luniau mae hi’n eu cofio. Mae’n defnyddio acrylig ac olewon am ei bod wrth ei bodd â’r gwahanol weadau o baent, gan roi bywyd i lun sy’n gwbl unigryw.

Mae ganddi BA (Anrh) mewn Celf Gain, ac ar hyn o bryd, mae’n astudio gradd Meistr mewn Celf Gain.

Ffotograph o Jane Paice yn braslunio tu allan
Jane Paice

Wrth baentio byddaf yn mynd i le arbennig. Mae paentio yn ddihangfa, yn ddiddordeb, yn fwynhad ac yn alar. Mae’n ffordd o gofio….ac anghofio.

Rwy’n dwyn y rhan fwyaf o fy ysbrydoliaeth ar gyfer fy ngwaith o odidowgrwydd y tir a’r môr o amgylch fy nghartref ym Môn.

Yn fy ngwaith byddaf y ceisio cyfleu egni dynamig a di-flino’r môr, boed yn forlun stormus neu blygiadau syml y tonau.

Rwyf hefyd yn treulio oriau yn pendroni drwy fynyddoedd ac ogofâu Eryri, yn braslunio, paentio a cheisio cysur gan sefydlogrwydd a mawredd arbennig natur.

Byddaf yn creu amwysedd o fewn fy ngwaith yn aml, gan adael i’r un sy’n edrych arno benderfynu a ydynt yn edrych ar y tonau, ogof neu wythïen ofer o gyfoeth dan y ddaear.

Mae pobl yn casglu fy ngwaith yn y DU, Canada, yr UDA, Iwerddon a Gwlad Belg. Rwy’n paentio’r rhan fwyaf o’m gwaith gydag olewon, a gwaith cyfrwng cymysg ar adegau eraill.

Ffotograff o Louise Morgan yn ei stiwdio
Louise Morgan

Wrth barhau i ymlwybro ar fy nhaith yn y byd celf, mae fy ngwerthfawrogiad tuag at yr amrywiaeth o gyfeiriadau a gwyriadau rwyf wedi’u cymryd yn tyfu. Mae gennyf fwy nag un llais artistig, ac mae fy nghreadigrwydd yn cael ei ysgogi gan sawl dylanwad. Mae’r casgliad hwn yn mynd â’r gwyliwr ar daith drwy olau naturiol, diwydiannol a threfol, gan arwain at gyfres o olygfeydd torfol damhegol sy’n adlewyrchu hanes troellog tirlun a phobl gogledd Cymru.

Ffotograff o Wendy Lawrence yn ei stiwdio
Wendy Lawrence

Rwyf wedi datblygu proses bersonol o arddulliau creu strwythurau ceramig, gan ymateb i rinweddau’r tirlun a daeareg sy’n fy ysbrydoli’n weledol ac yn emosiynol wrth wneud darnau sy’n ceisio cydio yng ngrym ffurf ac ansawdd naturiol.
Gellir arddangos fy ngwaith yn y cartref ac yn yr ardd.

27.04.24 - 09.06.24