Sgip i'r prif gynnwys
09.04.24 - 07.07.24

Stiwdio Gelf Ebrill i Gorffennaf 2024

Mae ein harddangosfa - micro chwarterol yn arddangos ac yn hyrwyddo gwaith pedwar artistiaid sy'n gweithio drwy wahanol cyfryngau.

Chris Cornwell

Fel daearegwr, rydw i bob amser wedi bod â diddordeb yn y tirlun a’r byd naturiol. Bellach wedi ymddeol ac yn byw ym mhrydferthwch gogledd Cymru, mae’r cyfle gennyf i baentio’r mynyddoedd, coetiroedd a’r arfordir. Rwy’n herio fy hun i geisio dal ei phrydferthwch, golau ac atmosffer.

Dyfrlliw yw fy hoff gyfrwng. Rydw i wrth fy modd efo’r ffordd mae’n llifo ac yn dryloyw. Ceisio sicrhau rheolaeth o’r sylwedd ar bapur tamp gan wybod fy mod yn troedio llinell denau rhwng trychineb a gorfoledd yw’r hyn rwy’n ei fwynhau. Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn paentio ag acrylig ac olew gan fwynhau’r her o ddefnyddio gwahanol gyfryngau.

Dyma fy arddangosfa gyntaf yn Oriel Ynys Môn ond byddaf hefyd yn arddangos fy ngwaith yn Galeri Bay Tree yn y Fali, Canolfan Gwybodaeth i Dwristiaid Llangollen a’r Royal Cambrian Academy Open ac amrywiaeth o arddangosfeydd eraill yn y Gwanwyn a’r Haf.

Byddaf yn dangos fy ngwaith drwy www.facebook.com/BrynEurynArt a gellir cysylltu â mi drwy e-bost ar ccornwell299@gmail.com

Ffotograff o 7 paentiad i fyny ar y wal
paentiad o draeth Moelfre gyda chychod bach yn y tu blaen

Peter Thomas

Roedd hi tua 1955, roeddwn yn ddisgybl ifanc yn Ysgol Gerlan uwchben Bethesda ac roedd athrawes ifanc newydd ddechrau ar ei gyrfa.

Roedd hi wedi paentio llun Crist a’i hongian ar wal yr ystafell ddosbarth.

Roeddwn wedi fy syfrdanu a fy swyno a byddwn yn edrych ar y llun drwy’r ffenestr amser chwarae.

Mae profiadau cynnar yn ein dylanwadu am oes.

Ffotograff o 7 paentiad i fyny ar y wal
a painting of Eglwys Cwyfan with stones leading the way in to the sea
Peter Thomas

Philippa Jacobs

Astudiodd Philippa yn y Coleg Celf Brenhinol yn Llundain.

Yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau cafodd gyfle i gynnal nifer o sioeau yn Llundain a’r ardal gyfagos, ac roedd yn arddangos ei gwaith yn rheolaidd yn orielau’r Mall, yn bennaf yn y Royal Portrait Society a’r Royal Society of British Artists. Cynhaliodd ei harddangosfa ddiwethaf yn Oriel Môn yn 2017, ac roedd yn boblogaidd tu hwnt.

Ar ôl byw ar Ynys Arw, Mynydd Twr am bum mlynedd ar hugain, symudodd Philippa i fwthyn yn edrych i lawr ar Ddyffryn Dyfrdwy, Bala, ac mae bellach wedi agor stiwdio Pen y Braich.

Yn ystod 2024, bydd yn cyflwyno nifer o arddangosfeydd yn Oriel Môn, Gŵyl Dylan Thomas, Caernarfon, Bangor a Blaenau Ffestiniog, Llyfrgelloedd, Yr Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy a sioe yn Oriel Brondanw yn ystod yr hydref.

Ffotograff o 7 paentiad i fyny ar y wal
Paentiad oren a choch llachar o goed ar dân
Philippa Jacobs

John Arthur Jones

Ganwyd JOHN ARTHUR JONES (6.11.1931) ar fferm fach ar Ynys Môn, gogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn angerddol iawn dros y cefn gwad a’r arfordir, a dechreuodd dynnu lluniau â llaw a phaentio golygfeydd gwledig yn ifanc iawn. Ar ôl ymddeol, cydiodd John unwaith eto yn ei ddiddordeb mewn paentio, ac ar hyn o bryd, mae ganddo gasgliadau o baentiadau o dirluniau gwahanol wedi’u creu’n bennaf o olew a lliwiau dŵr. Dros y blynyddoedd, mae gwaith John wedi cael ei arddangos mewn sawl llyfrgell ac oriel yn Northamptonshire, Theatr y Derngate yn Northampton, yn ogystal â Daventry, Rugby, Corby a Warwick. Ar ôl dod yn ôl i fyw ar Ynys Môn, mae ychydig o’i waith wedi’i dderbyn yng Nghanolfan yr Ucheldre, Caergybi, y Ganolfan ym Miwmares, yr Amgueddfa a’r Oriel ym Mangor ac Oriel Môn, Llangefni. Mae’r arddangosfa hon, ‘The Wales Paintings of John Arthur Jones’, Paentiadau o Gymru – John Arthur Jones, a’r llyfr sy’n cyd-fynd â hi (ar werth yn y siop) y dangos paentiadau’r artist o dirluniau Cymru. Yn yr arddangosfa ceir cofnod o baentiadau o gartref teuluol John yn nhirlun anwastad a hardd Ynys Môn a gogledd Cymru, yn ogystal ag ambell i ddarn gwaith o rannau eraill o Gymru. Mae tri o’r paentiadau yn y llyfr (‘Swtan’, ‘Twyni, Aberffraw’, ac ‘Afon Menai’) wedi’u hepgor o’r arddangosfa hon am eu bod bellach yn rhan o gasgliadau parhaol Oriel Môn, ac mae John yn falch iawn o hyn. Gellir prynu pob darn gwaith arall yn yr arddangosfa ac yn y llyfr - holwch staff yr oriel am ragor o wybodaeth neu anfonwch neges e-bost at paintingsjajones@gmail.com

Ffotograff o 5 paentiad i fyny ar y wal
Paentiad o ochr clogwyn mawr gydag afon ar y gwaelod.
John Arthur Jones
09.04.24 - 07.07.24