Sgip i'r prif gynnwys

Telerau ac Amodau

Mae Oriel Môn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfamserol.

Er hynny, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu anhwylustod a achosir oherwydd dibynnu ar ddeunydd anghywir a geir ar y wefan hon neu ar unrhyw wefan a chysylltir drwy’r wefan hon. Rhoddir cysylltiadau â gwefannau eraill er hwylustod i chi ac nid yw hyn yn golygu bod yn eu cymeradwyo. Nid yw Oriel Môn yn gwarantu nac yn gwneud sylwadau nac yn cefnogi unrhyw wefannau cysylltiedig na’r wybodaeth sy’n ymddangos arnynt na’r cynnyrch neu’r gwasanaethau a ddisgrifir arnynt.

Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am ddigwyddiadau yr ydym yn eu hysbysebu ar ein gwefan sydd heb eu trefnu gan Oriel Môn. Mae Oriel Môn yn cadw’r hawl i wneud newidiadau heb rybudd.

Hawlfraint

Oriel Môn neu partïon eraill sy’n dal yr hawlfraint ar yr holl ddeunydd ar y wefan hon (gan gynnwys y testun a’r delweddau), oni nodir fel arall.

Diogelir y tudalennau hyn gan hawlfraint, oni ddatganir i’r gwrthwyneb. Ni chaniateir atgynhyrchu’r deunydd hwn mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ysgrifenedig Oriel Môn. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn gymwys i gynnwys y wefan hon. Mae’n bosibl bod hawliau eiddo deallusol mewn rhai o’r deunyddiau yn cael eu dal gan awduron unigol. Ni ellir defnyddio logo Oriel Môn mewn unrhyw ffordd heb ganiatâd ysgrifenedig.

Nid oes gennych yr hawl i ddefnyddio unrhyw gynnwys neu farc/logo ar eich gwefan, blog neu unrhyw wasanaeth arall ond fel y darperir ar y safle we hon.

Firysau

Mae Oriel Môn yn gwneud pob ymdrech i feirws-wirio gwybodaeth sydd ar gael i’w dadlwytho ar y wefan hon. Ni all Oriel Môn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddigwydd wrth ddadlwytho deunydd. Argymhellwn fod defnyddwyr yn ailwirio’r holl ddeunydd a ddadlwythir gyda’u meddalwedd gwirio firysau eu hunain.

 

Adborth

Os gwelwch unrhyw wybodaeth ar ein tudalennau gwe y credwch ei bod yn anghywir neu'n anaddas, rhowch wybod i ni.

Newid

Gall Oriel Môn newid y Telerau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru'r hysbysiad hwn.