Sgip i'r prif gynnwys
28.11.20 - 20.06.21

George Cockram

O Benbedw i Fôn: Ailddarganfod yr arlunydd George Cockram

Ganwyd George Cockram (1861-1950) ym Mhenbedw a chafodd ei hyfforddi yn Ysgol Gelf Lerpwl, ond treuliodd rhan helaeth o’i fywyd yn Rhosneigr, Ynys Môn lle bu’n gweithio fel artist.

Mae’r casgliad hwn yn cynnwys gwaith o bob cyfnod o yrfa Cockram; o olygfeydd o Lerpwl o ddechrau’r 1880au i olygfeydd o draeth Rhosneigr o ddiwedd y 1940au. Bydd yn cynnwys darnau mawr o waith a grewyd ar gyfer arddangosfeydd yn ogystal a’r gwaith oedd yn cael eu gwerthu I dwristiaid. Bydd y llyfr sy’n cyd-fynd a’r arddangosfa, a ysgrifennwyd gan y cyn-guradur amgueddfa Charles Nugent, yn tynnu ynghyd popeth sy’n hysbys am fywyd Cockram, ac yn rhoi darlun cyffredinol o’i yrfa fel artist ac yn gyfle i ailasesu ei waith.

Bydd nifer o’r gweithiau yma ar werth ond ni fydd modd defnyddio’r Cynllun Casglu.

Prynwch lyfr George Cockram yn agor ffenestr newydd