Sgip i'r prif gynnwys
23.03.24 - 07.07.24

Gwobr Lluniadu Syr Kyffin Williams 2024

Yn yr arddangosfa hon, y chweched o'i bath, bydd holl waith llwyddiannus Gwobr Lluniadu 2024 yn cael eu harddangos ochr yn ochr â rhai o ddarluniau Kyffin.

Roedd Syr Kyffin WIlliams yn llysgennad angerddol dros y celfyddydau yng Nghymru a bu'n gefnogwr gweithgar a brwd i Oriel Môn ers ei hagor yn 1991. Sefydlwyd Gwobr Lluniadu Syr Kyffin Williams yn 2009 gan ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams ac Oriel Môn fel teyrnged i gefnogaeth Syr Kyffin Williams i artistiaid a'r pwys a roddai ar siliau darlunio. 

Ergyd panoramig o'r oriel
Ergyd panoramig o'r oriel

Cyhoeddi enillwyr ‘Gwobr Lluniadu Syr Kyffin Williams’ yn Oriel Môn.

Mae Oriel Môn yn falch o gyhoeddi chweched arddangosfa ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams ‘, a fydd yn agor ar y 23ain o Fawrth.

Sefydlwyd ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ gan Ymddiriedolaeth Kyffin Williams ac Oriel Môn, er cof am un o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru.

Cynhelir y Gystadleuaeth Lluniadu clodfawr pob tair blynedd. Mae gwobr o £3,000 ar gael i enillydd y brif wobr a gwobr o £1,000 i enillydd y gystadleuaeth i fyfyrwyr.

Ian Fisher o Lanelli yw enillydd y brif wobr eleni. Mae gwaith Ian yn edrych ar dirwedd a diwylliant Cymru drwy gyfres o ysgythriadau a lluniadau. Ei nod yw cyfleu ‘ysbryd llefydd’ yn hytrach na phortreadu tirwedd Cymru’n fanwl gywir. Mae’n edrych ar y berthynas rhwng tirwedd Cymru a’i diwylliant, hanes, celf a mytholeg. ’

Meddai Ian, “Yn y bôn ffordd o greu lluniad yw ysgythru, ond gan bod modd creu nifer o ddelweddau a’u hamrywio mae’r lluniad yn fwy dramatig ac mae’r broses yn llai caeth na phrosesau eraill.”

Dyma oedd gan Ian i’w ddweud ar ennill y Wobr, “Rydw i’n falch iawn fy mod wedi ennill ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ o gofio bod artistiaid fel Colin See-Paynton ac Eleri Mills wedi ennill y wobr yn y gorffennol. Mae fy ngwaith wedi cael ei ysbrydoli gan ysgythriad o’r 16eg ganrif, ‘Fools Cap Map of the World’. Does neb yn gwybod pam, na phryd y cafodd ei greu, na chan bwy, ac mae’n bosib na chawn fyth wybod”.

“Ro’n i eisiau cynhyrchu map dychanol gan ddefnyddio het y ffŵl, ac mae fy ngwaith yn seiliedig ar y pethau yr ydw i wedi eu darllen, eu gweld neu eu clywed am Gymru. Felly, mae’r darn yn cynnwys pethau gwir ac anwir, ond nid celwydd o reidrwydd.”

Joshua Griffith o Gaergybi, sy’n astudio am radd BA mewn Celfyddyd Gain yng Ngrŵp Llandrillo Menai Llandrillo yw enillydd y gystadleuaeth i fyfyrwyr eleni am ei luniad graffit ac acrylig o’r enw ‘Biomorph #1’.

Meddai Joshua, “Mae fy ngwaith diweddaraf yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng gofod a ffurf. Rydw i fel arfer yn creu cerflunwaith a lluniadau trwy arsylwi. Rydw i’n cael fy nenu at ffurfiau organig a’r ffordd y maent yn ymateb i wahanol amgylcheddau”.

Fe aeth Joshua ymlaen i ddweud, “Hoffwn ddiolch i Oriel Môn a ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ am ddewis fy ngwaith i ar gyfer y wobr i fyfyrwyr. Mae lluniadu wedi chwarae rhan bwysig yn fy siwrne greadigol, ac felly rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith drwy ennill y wobr hon.”

Unwaith eto, noddwyd y wobr drwy rodd hael gan y pensaer adnabyddus Mike Davies, a dderbyniodd yr anrhydedd ‘Légion d’Honneur’ gan Arlywydd Ffrainc a CBE gan EM y Frenhines Elizabeth, ac un o sefydlwyr y cwmni ‘Rogers, Stirk, Harbour and Partners’, sef y penseiri a ddyluniodd Adeilad y Senedd yng Nghaerdydd.

Meddai Mr John Smith, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, “Mae’n bleser mawr gan Ymddiriedolaeth Kyffin Williams gael gweithio mewn partneriaeth ag Oriel Môn, i drefnu’r Wobr Lluniadu eto eleni”.

“Yr hyn sy’n ein hysbrydoli ni i gyd yw egwyddorion creadigol sylfaenol Syr Kyffin, a’i bwyslais ar bwysigrwydd sgiliau lluniadu. Roeddem yn ffodus iawn o gael tri artist enwog o Gymru ar y panel eleni. Hoffwn ddiolch i Eleri Mills, a enillodd y wobr yn 2021, Luned Rhys Parri a Darren Hughes am lunio’r rhestr fer a dewis yr enillwyr. Roedd yn dasg aruthrol.”

“Ar ran yr Ymddiriedolaeth, hoffwn fynegi fy niolch i fy nghyd Gymro a’r pensaer byd-enwog, Mike Davies am noddi’r Wobr Lluniadu am yr eildro eleni. Treuliodd Mike Davies rywfaint o’i blentyndod yn Waunfawr lle disgynnodd mewn cariad â mynyddoedd Eryri cyn mynd i Ysgol Highgate yn Llundain yn y pumdegau hwyr lle bu Kyffin yn ‘Feistr Celf Ysbrydoledig’ iddo.

“Hoffwn ddiolch i’r holl artistiaid sydd wedi cystadlu eleni a holl staff Oriel Môn. Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr, am ei hymroddiad a’i threfniadau manwl ar gyfer y Wobr Lluniadu”.

Ers i’r Wobr Lluniadu gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2009, mae mwy a mwy o artistiaid o bob rhan o Gymru a Lloegr wedi ymgeisio. Bydd y darnau buddugol gan Ian Fisher a Joshua Griffith, ynghyd â gwaith yr artistiaid a gyrhaeddodd y rhestr fer, yn cael eu harddangos yn arddangosfa ‘Gwobr Lluniadu Kyffin Williams’ yn Oriel Môn rhwng 23 Mawrth a 7 Gorffennaf 2024.

Darlith Flynyddol Kyffin Williams
23.03.24 - 07.07.24