Sgip i'r prif gynnwys
21.02.23 - 18.06.23

Peter Moore

Ymyl yr Iwerydd gwyllt. Taith i lawr arfordir Gorllewinol Prydain

Arfordiroedd garw a chilfachau; ymchwydd y llanw ewynnog, a chopaon miniog mynyddoedd ar ymyl y môr. Mae'r paentiadau hyn wedi'u cymryd o deithiau llyfr braslunio Peter ac yn cyfleu harddwch atmosfferig ein harfordiroedd a'n mynyddoedd Gorllewinol. Beddrodau Neolithig; Enwau lleoedd Llychlynnaidd a Cheltaidd o Shetland i Ynysoedd Sili. Mae cofnod dwys bywyd wedi'i sgriblo ar ymyl y môr.

1

Ym 1972, astudiais yn Adran Celfyddyd Gain Prifysgol Newcastle, gan gwblhau Gradd BA(Anrh) mewn Celfyddyd Gain, a chwrs TAR ym Mhrifysgol Caerdydd. Symudais o Gaerdydd i ogledd Cymru ym 1981. Rwyf wedi treulio blynyddoedd yn troedio’r arfordir a dringo’r mynyddoedd gyda llyfr braslunio yn fy llaw. Fel sawl artist arall, rwyf wedi ceisio gweld yr haniaeth sy’n cynnal yr ymdeimlad o fotif. Yn aml yn ystod yr haf, byddaf yn paentio lluniau ‘plein air’, gan greu sawl braslun olew a brasluniau lliwiau dŵr. Mae fy arddull fy hun wedi datblygu yn ddull mwy haniaethol, ac rwy’n defnyddio inciau Indiaidd ac Acrylig i greu ‘atmosffer’, neu ymyriadau atmosfferaidd du newydd; atsain o rym mawreddog ond dinistriol natur.

I’r perwyl hwn, mae’r safbwynt yn cael ei greuloni, mae fy nulliau yn llym, ond wedyn maent yn cael eu hesmwytho – mewn dilyniant parhaus o newid. Mae darluniau’n cael eu dethol o fy netholiad o frasluniau, ac mae lliw a thôn hefyd yn cael eu dysgu ar gof, gan ddatblygu golau a lliwiau gwrthgyferbyniol neu effaith unlliw. Mae fy mhaentiadau’n cael eu defnyddio yn y ffordd hon er mwyn cyfoethogi’r arbrofion gydag inciau acrylig arhosol; ac yn anhoredig eu natur. Mae fy narluniadau wedi llenwi ugain neu fwy o lyfrau braslunio, felly mae tynnu llun ac arbrofi yn dod yn ffordd o weld, fel atgof gweledol estynedig. Rwy’n addysgu lluniadu a phaentio yn Neuadd Goffa Rowen, Dyffryn Conwy a lleoliadau eraill i’r rhai sy’n dechrau arni a’r unigolion mwy profiadol. Rwyf hefyd wedu addysgu’r ‘dosbarth bywluniad’ yn yr RCA. Rwyf hefyd yn arddangos ac yn darlithio gyda nifer o gymdeithasau celf yng ngogledd Cymru, ac mae gennyf gofnod o ddarluniadau a phaentiadau o’r grwpiau hyn; yn ogystal â fy ‘nghelf ysgol’, neu ‘schools art’ o Swdan. Rwyf hefyd wedi addysgu plant mewn ysgol ym Methesda yn gwneud cerfluniau â llechen yn seiliedig ar y ‘Mabinogion’ mewn parc gwledig yn Llanberis. Rwyf hefyd wedi creu cerfluniau’n seiliedig ar y Ail Ryfel Byd ar gyfer digwyddiad agored, ‘open’, gan yr RCA yn 2014, ac ar gyfer arddangosfa Artists for Peace yn Llandudno. Rwy’n arddangos yn aml yn ‘open’ blynyddol RCA ac hefyd wedi arddangos yn Oriel Môn, Llangefni. Roeddwn hefyd yn arddangos yn ‘Galeri Tegfryn’ Martin Tinney tan iddi gau yn 2020.

21.02.23 - 18.06.23