Sgip i'r prif gynnwys
28.01.23 - 18.02.24

Tair Hen Delyn

Arddangosfa wedi'i rhoi at ei gilydd gan y cerddor traddodiadol Huw Roberts sy'n croniclo hanes swynol tair telyn deires sydd â chysylltiadau cryf ag Ynys Môn

Mae’n fraint gan Oriel Môn agor y drysau ar arddangosfa arbennig iawn, wedi’i curiadu gan y cerddor traddodiadol Huw Roberts o Langefni. Yn yr arddangosfa hon mae Huw wedi croniclo hanes swynol tair telyn deires sydd â chysylltiadau cryf ag Ynys Môn.

Darganfod hen delyn deires Gymreig y telynor dawnus o Lannerch-y-medd, Owen Jones ‘Telynor Seiriol’ (1860-1906) a arweiniodd at y syniad o greu’r arddangosfa hon.

Er mwyn cyflwyno arddangosfa ddiddorol, penderfynodd Huw, arddangos dwy hen deires arall hefyd - sef ei delyn ef, a thelyn ei gyfaill, y telynor Cymreig, Steffan Thomas o Langristiolus.

Gobeithir bydd yr arddangosfa arbennig hon yn codi ymwybyddiaeth am y delyn deires Gymreig sy’n cael ei chydnabod fel offeryn cenedlaethol Cymru.

Meddai Huw, “Mae’n bwysig fod plant a phobl ifanc, oedolion a thwristiaid yn dod i wybod am ei phwysigrwydd yn niwylliant cerddorol a threftadaeth y genedl. Mae ganddi draddodiad hir yma ym Môn – traddodiad sy’n parhau hyd heddiw”.

Mi fydd yr arddangosfa yn cael ei arddangos yn yr Oriel tan Chwefror 18, 2024.

https://simonchadwick.net/2023/10/tair-hen-delyn.html

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p0gnmhsn

https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m001rp3f

Telyn
28.01.23 - 18.02.24